Fe fydd cartref rygbi Llanelli yn troi’n leoliad cyngerdd ddydd Sadwrn 19 Mehefin 2027, pan fydd sêr y West End yn perfformio Noson o ABBA ar y cae.
Mae tocynnau ar gael nawr o £25 a lletygarwch o £79.
Fe fydd cast o berfformwyr y West End a band byw yn chwarae rhai o hoff ganeuon ABBA ar lwyfan ar y cae. Fe fydd y giatau’n agr am 5.30pm a’r sioe yn cychwyn am 7pm.
Mae’r gyngerdd yn rhan o gynlluniau’r Scarlets i agor Parc y Scarlets i gynulleidfa ehangach tu hwnt i ddiwrnodau gêm.
Dywedodd Jon Daniels, Rheolwr Gyfarwyddwr y Scarlets; “Parc y Scarlets yw cartref rygbi yng ngorllewin Cymru, ond mae hefyd yn un o’r lleoliadau digwyddiadau gorau yn y rhanbarth, ac ry’n ni eisiau ei weld yn llawn pobl trwy gydol y flwyddyn.
“Mae noson o gerddoriaeth ABBA ar noson fwyn yn yr haf yn ddigwyddiad arbennig i’n cefnogwyr a’r gymund yn ehangach. Dewch â’rch ffrindiau ynghyd am noson llawn hwyl.”
Cyflwynir y noson mewn cydweithrediad â Coracle Coaches Holiday Gold.
“Ry’n ni’n falch iawn o gefnogi’r digwyddiad hwn. Rydyn ni’n rhedeg tripiau i Ewrop yn gyson ac ry’n ni’n falch iawn o ddod â sêr y West End i orllewin Cymru,” ychwanegodd Ken Duxburry, Cyfarwyddwr, Coracle Coaches.
Fe fydd Coracle Coaches yn rhedeg bysus i’r gyngerdd o Hwlffordd, San Clêr a Chaerfyrddin, ac maen bosib archebu llefydd o flaen llaw. Fe fydd gwasanaeth hefyd ar gael o orsaf drenau Llanelli i Barc y Scarlets.
Mae pecynnau lletygarwch ar gael o £79, gyda lletygarwch yn agor am 5pm ar gyfer profiad cyn y sioe. Mae tocynnau grwp ar gael, sy’n ei wneud yn achlysur arbennig ar gyfer partïon penblwydd, partïon plu a noson allan gyda’ch ffrindiau.
Mae pecynnau lletygarwch a thocynnau arferol ar gael heddiw, cliciwch YMA
