Tîm cyntaf a thîm D18 y Scarlets i wynebu’r Dreigiau yng ngemau dwbl yn Llanymddyfri

Rob LloydFeatured, Newyddion, Newyddion yr Academi

Bydd y Scarlets yn chwarae’r Dreigiau yng ngem ddwbl yn Llanymddyfri mis nesaf gyda’r timau D18 yn chwarae gyntaf i gychwyn y gemau cyfeillgar.

Gyda llawer o dalent ifanc yn datblygu yn ein rhanbarth, bydd y tîm D18 yn chwarae ym Mhencampwriaeth yr Academi ar Ddydd Gwener, Medi 11, gyda’r gic gyntaf am 4yp ym Manc yr Eglwys.

Bydd gem y tîm cyntaf yn dilyn am 7yh ac yn gyfle i gefnogwyr i weld rhai wynebau newydd yng nghrys y Scarlets.

Gyda’r holl elw yn mynd tuag at ymgyrch codi arian Coleg Llanymddyfri, mae mynediad (ar gyfer y ddwy gêm) yn £10 i oedolion gyda phlant dan 16 oed a henoed am ddim. Bydd mynediad yn cael ei dalu wrth y giât.