Tocynnau ar werth nawr ar gyfer y cyfnod nesaf o gemau
Fe fydd y Scarlets yn croesawu DHL Stormers i Barc y Scarlets nos Wener 10fed Hydref yn nhrydydd rownd Pencampwriaeth Rygbi Unedig, mae tocynnau ar gael yma
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod tocynnau ar werth nawr ar gyfer y gemau nesaf, yn erbyn Glasgow Warriors, Bryste, Gweilch a Section Paloise.
Mae tocynnau lletygarwch ar werth hefyd ac ar gael yn uniongyrcchol o’r wefan, yma
Scarlets v Glasgow Warriors (URC), Sadwrn 29 Tachwedd, cic gyntaf 19:45
Ymunwch â ni ar gyfer gêm nos Sadwrn wrth i ni groesawu Glasgow Warriors i’r Parc.
Scarlets v Bryste (Cwpan Pencampwyr Investec), Sadwrn 6 Rhagfyr, cic gyntaf 20:00
Fe fydd y Nadolig yn cyrraedd Parc y Scarlets yn gynnar wrth i ni groesawu Louis Rees-Zammit a’i dîm yn rownd agoriadol Cwpan Pencampwyr Investec. Gwisgwch eich het Nadoligaidd ar gyfer ein gêm gartref olaf cyn y Nadolig.
Scarlets v Gweilch (URC), Gwener 26 Rhagfyr, cic gyntaf 17:30
Daw’r gêm ddarbi fawr yn ôl i Barc y Scarlets ar Wyl San Steffan wrth i’r Gweilch deithio ar draws Pont Llwchwr. Mae’n addo bod yn ddiwrnod llawn cyffro, ceisiau a hen elynion.
Scarlets v Section Paloise (Cwpan Pencampwyr Investec), Sadwrn 10 Ionawr, cic gyntaf 20:00
Byddwn ni’n dangos ein diolch a’n gwerthfawrogiad i’r gwasanaethau brys wrth i ni groesawu ein ffrindiau o’r Fyddin, y Llynges a’r RAF, yn ogystal â thimau lleol Heddlu Dyfed Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a’r RNLI.
Mwynhewch holl weithgareddau arferol Pentref y Cefnogwyr yn ogystal â gemau a gweithgareddau rhyngweithiol y Gwasanaethau.