Tocynnau Scarlets v Gweilch ar werth i ddalwyr tocyn tymor

Rob LloydNewyddion

Mae gêm ddarbi fawr y gorllewin yn dychwelyd i Barc y Scarlets ar Wyl San Steffan eleni!

Fe fydd cyfle i ddalwyr tocyn tymor brynu tocynnau i’r gêm mewn cyfnod unigryw o ganol dydd, Gwener 26ain Medi.

Os ydych chi’n gobeithio prynu eich anrhegion Nadolig yn gynnar, ry’n ni’n falch iawn o gyhoeddi bod gan bob daliwr tocyn tymor y Scarlets gyfle i brynu tocynnau ychwanegol i deulu a ffrindiau i gêm fawr y Nadolig mewn cyfnod ecsgliwsif.

Mae’r cyfnod ecsgliwsif ar agor o ganol dydd Gwener 26ain Medi hyd at ddydd Sul 5ed Hydref. Fe fydd yn bosib i chi brynu tocynnau ychwanegol ar y we, wrth mewngofnodi i’ch cyfrif tocyn tymor, neu yn y swyddfa docynnau.

Fe fydd tocynnau Scarlets v Gweilch ar werth i’r cyhoedd o ddydd Llun 6ed Hydref.

Gwnewch yn siwr eich bod chi yn y Parc ddydd Gwener 26ain Rhagfyr i weld rhai o frwydrau mwyaf rygbi Cymru.

Fe fydd tocynnau i’n gemau cartref yn erbyn Glasgow Warriors (URC), Bristol Bears a Section Paloise (Cwpan Pencampwyr Investec) ar werth i’r cyhoedd o ddydd Llun 6ed Hydref.

Helpwch ni i lenwi’r Parc, prynnwch eich tocynnau yma