Diwrnod Shwmae Su’mae hapus i chi!
I ddathlu Diwrnod Shwmae Su’mae, rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi y byddwn ni’n dathlu ein Cymreictod ym mis Ioanwr pan fyddwn ni’n croesawu Ulster i Barc y Scarlets.
Os ydych yn ymweld â Pharc y Scarlets yn gyson, ac yn mynychu gemau’n aml, byddwch chi siwr o fod wedi sylwi ein bod ni’n falch iawn o’n Cymreictod yma ac yn ei ddefnyddio yn feunyddiol.
Ond, ar ddydd Sadwrn 24ain Ionawr byddwn ni’n cynnal gŵyl o weithgareddau, cerddoriaeth a bwyd Cymreig a Chymraeg i ddathlu ein hunaniaeth, ein Cymreictod a’n hanes.
Byddwn ni’n cydweithio â Menter Cwm Gwendraeth Elli i sicrhau diwrnod llawn hwyl i’r teulu oll.
Mae tocynnau Scarlets v Ulster, Sadwrn 24ain Ionawr cic gyntaf 15:00, ar werth nawr.