Ymunwch â ni ar gyfer noson arbennig o dân gwyllt wrth i’r nosweithiau dywyllu!
Fe fydd noson Tân Gwyllt Tanbaid yn ôl ym Mharc y Scarlets nos Fercher 4 Tachwedd 2026.
Mae tocynnau ar werth nawr ar gyfer un o’r nosweithiau gorau yng nghalendr cymdeithasol Parc y Scarlets ac ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu yn ôl i’r Parc ar gyfer noson arbennig arall.
Fe fydd hi’n noson llawn cyffro, adloniant, bwyd arbennig a thân gwyllt gwefreiddiol yn addas i’r teulu oll.
Dewch â’ch teulu a ffrindiau i’r Parc nos Fercher 4 Tachwedd 2026 a mwynhewch:
- Reidiau a atyniadau ffair
- Stondinau bwyd stryd a masnach
- Adloniant byw
- Arddangosfa tân gwyllt syfrdanol
Amserlen y digwyddiad:
- 15:30 – Ffair, stondinau bwyd stryd a masnach ar agor
- 17:00 – Gatiau ar agor
- 18:00 – Adloniant byw i gychwyn
- 18:55 – Arddangosfa Tân Gwyllt i ddechrau
- 19:15 – Diweddglo’r Tân Gwyllt
- 21:00 – Diwedd y digwyddiad
Peidiwch â cholli noson arbennig o greu atogfion ym Mharc y Scarlets.
Pris y tocyn yw:
- Oedolion / Henoed £11
- Ieuenctid dan 16 £6.50
- Plant dan 6 £2
Prynnwch nawr, yma, sicrhewch eich lle cyn i’r tocynnau werthu mas!
Mwynhewch noson yn ein Lolfa Lletygarwch
Beth am fwynhau noson yn un o’n Lolfeydd Lletygarwch?
Fe fydd Clever Cubs Club yn ymuno â ni unwaith eto. Fe gewch chi gyfle i gyfarfod cymeriadau arbennig a chael lluniau gyda nhw.
Fe fydd eich pecyn lletygarwch yn cynnwys:
- 1 lle parcio i bob archeb
- Seddi cadw ar gyfer y sioe
- Mynediad cynnar i’r lolfa
- Pryd o fwyd a phwdin
- Cyfle i gyfarfod eich hoff gymeriadau
- Mynediad i’r bar preifat cyn ac ar ôl y tân gwyllt
Amseroedd lletygarwch:
- 15:30 – Ffair, stondinau bwyd stryd a masnach ar agor
- 17:00 – Gatiau ar agor
- 18:00 – Adloniant byw i gychwyn
- 18:55 – Arddangosfa Tân Gwyllt i ddechrau
- 19:15 – Diweddglo’r Tân Gwyllt
- 21:00 – Diwedd y digwyddiad
Gallwch ddewis o bedwar amser lletygarwch:
- Cyfnod bwyta cyntaf – 16:00
- Ail gyfnod bwyta – 16:30
- Trydydd cyfnod bwyta – 17:00
- Pedwerydd cyfnod bwyta – 17:30
Gwybodaeth ychwanegol am yr amserau gwahanol: Fe fydd eich cyfnod bwyta yn parhau am ryw ddwy awr, gan roi amser i chi ymlacio, mwynhau diod a chael lluniau gyda’r cymeriadau.
Mae llefydd yn brin ac mae disgwyl iddynt fod yn boblogaidd iawn.
Mae prisiau’r pecynnau lletygarwch fel a ganlyn:
- Oedolion / Henoed £22
- Ieuenctid dan 16 £12
- Plant dan 6 £2
Archebwch eich lle nawr. Cliciwch yma
