Gwyliwch y Scarlets, dewch â’r clwb cyfan a chasglwch arian ar yr un pryd!
Chwilio am ddiwrnod gwych allan i’ch clwb rygbi, tîm chwaraeon, sefydliad, ysgol neu elusen? Mae Scarlets Rygbi yn cynnig cyfle i glybiau a sefydliadau droi taith i’r rygbi yn ddigwyddiad codi arian!
Pan fydd eich clwb neu sefydliad yn prynu 20 neu fwy o docynnau oedolion, byddwch yn derbyn £5 yn ôl am bob tocyn oedolyn a brynir.
Mae hynny’n golygu po fwyaf yw eich grŵp, y mwyaf y gallwch ei godi ar gyfer eich clwb neu sefydliad – wrth fwynhau diwrnod gwych allan yng nghartref y Scarlets.
Ymunwch â ni ar gyfer Scarlets v Connacht ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr a gwnewch e’n achlysur i gasglu arian i’ch ysgol.
Fe fydd y gêm yn ddathliad Nadoligaidd, annogwn bawb i wisgo siwmper Nadolig ac ymuno â ni am adloniant a gweithgareddau i godi hwyl yr wyl!
Cysylltwch â’r swyddfa docynnau’r [email protected] neu ffoniwch 01554 292939 i gael gwybod mwy a threfnu eich dolen archebu grŵp.
