Ymunwch â ni yng Ngharnifal Llanelli a digwyddiad troi’r goleuadau ymlaen

Rob LloydNewyddion, Newyddion Cymuned

Cynhelir digwyddiad cymunedol blynyddol mwyaf Sir Gaerfyrddin ar hyd strydoedd canol tref Llanelli, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ymuno â chi ddydd Gwener, 20 Tachwedd.

Mae Carnifal Llanelli a digwyddiad troi’r goleuadau ymlaen yn cynnwys gorymdaith fywiog gyda lorïau, sled a thractorau, arddangosfa tân gwyllt ysblennydd yn yr awyr, yn ogystal â reidiau ffair – rhai bach, rhai mawr a rhai brawychus – a stondinau.

Byddwn yn cymryd rhan yn yr orymdaith eto eleni – cofiwch godi llaw!

Trefnir y digwyddiad gan Gyngor Sir Gaerfyrddin mewn partneriaeth â Chyngor Gwledig Llanelli, Cyngor Tref Llanelli a Llanelli Round Table.

Amseroedd allweddol:

12:00 Cau Stryd Cowell

16:00 Agor y ffair (darperir gan South Wales Showman’s Guild)

17:45 Cau ffyrdd: Stryd yr Eglwys a strydoedd cyfagos

18:15 Gorymdaith y Carnifal yn gadael Festival Fields, Heol Sandy

18:45 Troi goleuadau’r Nadolig ymlaen

19:00 Gorymdaith y Carnifal yn cyrraedd ardal Neuadd y Dref