Mae’r Scarlets yn falch iawn o gyhoeddi partneriaeth newydd gyda Ron Skinner & Sons, un o werthwyr ceir mwyaf adnabyddus Cymru, ar gyfer tymor 2025-26.
Dyma’r tro cyntaf i’r cwmni teuluol gydweithio â’r Scarlets – a bydd cefnogwyr yn gallu gweld eu logo yn cael ei arddangos ar ochr y siorts ar draws ein tri chit y tymor hwn.
Wedi’i sefydlu ym 1968 gan Ron a Rachel Skinner yn Nhredegar, mae Ron Skinner & Sons wedi tyfu o fod yn siop fach i drwsio ceir a gorsaf betrol i fod yn un o fanwerthwyr modurol mwyaf adnabyddus Cymru gydag ystafelloedd arddangos yn Neyland a Cross Hands, yn ogystal â Thredegar a Chaerdydd.
Dywedodd Pennaeth Masnachol y Scarlets Garan Evans: “Rydym wrth ein bodd i groesawu Ron Skinner & Sons i deulu’r Scarlets. Maent yn gwmni Cymreig balch gyda presenoldeb blaenllaw yn y rhanbarth ac rydym yn edrych ymlaen at arddangos y brand ar ein cit.
“Mae partneriaethau fel hyn yn helpu i ni dyfu ar ac oddi ar y cae. Mae’n wych i gael y gefnogaeth yma am y tymor ac i ni’n edrych ymlaen at groesawu’r tîm i Barc y Scarlets ar ddydd Sadwrn.”
Ychwanegodd Phillip a Mark Skinner: “Mae hyn yn foment cyffrous iawn i ni. Fel cwmni teuluol gyda gwethoedd cryf yn ein cymined, teimlwn fod y berthynas yma gyda chlwb eiconig fel y Scarlets yn addas iawn i ni ac i ni methu aros i weld y logo ar y siorts am y tymor.”
Bydd cefnogwyr yn cael eu cipolwg cyntaf ar git newydd y Scarlets sy’n cynnwys brand Ron Skinner & Sons pan fydd tîm Dwayne Peel yn cychwyn eu hymgyrch 2025-26 gartref yn erbyn Munster ddydd Sadwrn.
Pictured is Michael Jones, General Manager of Ron Skinner & Sons with Scarlets captain Josh Macleod
