Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Steve Tandy, wedi cadarnhau carfan o 39 o chwaraewyr wrth i Gymru ddychwelyd adref ar gyfer tair o gemau fis Tachwedd yng nghystadleuaeth gyntaf Pencampwriaeth y Cenhedloedd.
Ar ôl chwarae tair gêm oddi cartref ym mis Gorffennaf yn erbyn Fiji, Ariannin a De Affrica, bydd Pencampwriaeth y Cenhedloedd yn parhau fis Tachwedd, gyda Chymru’n croesawu Japan, Seland Newydd ac Awstralia i Stadiwm Principality ar gyfer pedwaredd, pumed a chweched rownd eu gemau yn y gystadleuaeth – a hynny ar dri phenwythnos yn olynol.
Dewi Lake fydd capten y garfan ar gyfer yr ymgyrch. Mae aelodau’r garfan wedi cynrychioli Cymru ar 1,042 o weithiau. Mae tri chwaraewr sydd eto i ennill cap ymhlith y 22 o flaenwr a’r 17 o olwyr sydd wedi eu dewis: Rhys Barratt, prop pen rhydd Caerdydd, a deuawd y Dreigiau, y mewnwr Che Hope a’r canolwr Aneurin Owen.
Dywedodd Steve Tandy: “Mae’n braf gallu galw ar wasanaeth rhai chwaraewyr nad oedd ar gael i ni ar gyfer tair gêm gynta’r Bencampwriaeth. Mae’r ffaith bod nifer o’n chwaraewyr wedi cael dechrau arbennig i’r tymor gyda’u clybiau wedi sicrhau eu llefydd yn y garfan ar gyfer ein gemau’r Hydref yma.
“Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at chwarae tair gêm gartref. Mae Stadiwm Principality yn lle arbennig ac mae chwarae yno’n golygu llawer iawn i’n chwaraewyr. Pan fyddwn yn dod at ein gilydd yr wythnos nesaf – byddwn yn canolbwyntio’n llwyr ar herio Japan a gwneud popeth o fewn ein gallu i berfformio’n dda o flaen ein cefnogwyr ein hunain.”
Daw’r gystadleuaeth newydd i ben gyda Phenwythnos y Rowndiau Terfynol, pan fydd chwe gêm yn cael eu chwarae dros dri diwrnod yn Stadiwm Allianz, Twickenham.
Bydd pob un o’r 12 tîm yn cystadlu er mwyn penderfynu ar eu safle terfynol ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd. Yn ogystal, bydd y gwledydd yn ennill pwyntiau i’w hemisffer er mwyn penderfynu ai Hemisffer y Gogledd neu Hemisffer y De fydd yn fuddugol eleni.
Bydd pob gêm yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C ac ITV.
WALES SQUAD FOR THE NATIONS CHAMPIONSHIP NOVEMBER WINDOW (Competition rounds 4 to 6 followed by Finals Weekend)
Forwards (22) Rhys Barratt (Cardiff Rugby – uncapped), Taine Basham (Cardiff Rugby – 17 caps), Adam Beard (Montpellier – 68 caps), Liam Belcher (Cardiff Rugby – 5 caps), James Botham (Cardiff Rugby – 24 caps), Rhys Carre (Saracens – 31 caps), Ben Carter (Dragons – 21 caps), Seb Davies (Dragons – 17 caps), Ryan Elias (Scarlets – 51 caps), Tomas Francis (Sale Sharks – 82 caps), Archie Griffin (Bath Rugby – 16 caps), Kane James (Exeter Chiefs – 1 cap), Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs – 31 caps), Dewi Lake (Gloucester Rugby – 34 caps; capt), Dillon Lewis (Dragons – 60 caps), Alex Mann (Cardiff Rugby – 18 caps), Jac Morgan (Gloucester Rugby – 27 caps), Taine Plumtree (Scarlets – 15 caps), Nicky Smith (Sale Sharks – 66 caps), Gareth Thomas (Ospreys – 44 caps), Aaron Wainwright (Leicester Tigers – 70 caps), Teddy Williams (Cardiff Rugby – 10 caps).
Backs (17), Josh Adams (Cardiff Rugby – 72 caps), Sam Costelow (Scarlets – 22 caps), Rio Dyer (Dragons – 24 caps), Dan Edwards (Ospreys – 13 caps), Gabriel Hamer-Webb (Leicester Tigers – 1 cap), Joe Hawkins (Scarlets – 13 caps), Louie Hennessey (Bath Rugby – 1 cap), Che Hope (Dragons – uncapped), Eddie James (Scarlets – 11 caps), Max Llewellyn (Gloucester Rugby – 13 caps), Ellis Mee (Scarlets – 11 caps), Reuben Morgan-Williams (Ospreys – 3 caps), Blair Murray (Scarlets – 19 caps), Aneurin Owen (Dragons – uncapped), Louis Rees-Zammit (Bristol Bears – 43 caps), Tom Rogers (Ospreys – 13 caps), Tomos Williams (Saracens – 75 caps)
