Cerddwch i’r cae gyda’r Scarlets ar Wyl San Steffan

GwenanNewyddion, Newyddion Cymuned

Rhowch brofiad bythgofiadwy i’ch tîm ieuenctid ar Wyl San Steffan!

Rydym yn cynnig cyfle arbennig i un tîm gerdded i’r cae gyda’r Scarlets yn y gêm ddarbi fawr yn erbyn y Gweilch, cic gyntaf 17:30.

Fe fydd yr holl dimau yn cael gwahoddiad i chwifio’r baneri cyn y gic gyntaf wrth i’r Scarlets a’r Gweilch ddod i’r cae.

Sut i gystadlu:

I gael cyfle i ennill, fe fydd angen i chi brynu lleiafswm o 20 tocyn oedolyn ar gyfer y gêm ddarbi fawr erbyn dydd Iau 18fed Rhagfyr, gan ddefnyddio’r ffurflen archeb grwp.

Mae’r gystadleuaeth ar agor i holl dimau a hwbiau dan 7 i dan 13 yn rhanbarth y Scarlets.

Bydd 15 aelod o’ch tîm yn cael cerdded i’r cae gyda thîm cychwynol y Scarlets yn gwisgo lliwiau eich clwb / hwb.

Cyhoeddi’r enillydd:

Fe fydd yr enillydd yn cael ei ddewis ddydd Gwener 19eg Rhagfyr ac fe fyddwn ni’n cyhoeddi’r tîm buddugol ar dudalenau Facebook ac Instagram Sefydliad Gymunedol y Scarlets.

Peidiwch â cholli’r cyfle arbennig hwn, archebwch eich tocynnau heddiw.

Cysylltwch yn uniongyrchol â’r swyddfa docynnau ar 011554 29 29 39 neu ebostiwch [email protected]

Pob lwc!