Mae’r Prif Hyfforddwr Steve Tandy wedi cyhoeddi tîm Cymru i chwarae yn erbyn Japan yn Stadiwm Allianz, Twickenham, yn y gêm i hawlio’r pumed safle ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd, ddydd Sadwrn 28 Tachwedd, am 1.10pm.
Mae Tandy wedi gwneud pum newid i’r pymtheg ddechreuodd yn y golled o 26-29 yn erbyn Awstralia y penwythnos diwethaf.
Mae Rhys Carré wedi’i ddewis yn brop pen rhydd ar gyfer ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yng ngemau’r Hydref. Bydd Ryan Elias yn dechrau yn safle’r bachwr.
Mae’r clo Adam Beard wedi’i enwi yn bartner i Dafydd Jenkins, fydd yn arwain y tîm brynhawn Sadwrn.
Bydd James Botham yn dychwelyd i’r tîm cyntaf yn safle’r blaenasgellwr ochr agored. Alex Mann a’r wythwr Aaron Wainwright fydd yn cwblhau’r drindod yn y rheng ôl.
O safbwynt yr olwyr, bydd y mewnwr Reuben Morgan-Williams yn dechrau ei gêm gyntaf dros Gymru.
Bydd Dewi Lake, Jac Morgan, Tomos Williams ac Ellis Mee yn dechrau ar y fainc ar gyfer y gêm hon.
Dywedodd Steve Tandy: “Roedden ni’n rhwystredig ac yn siomedig ein bod wedi colli’r penwythnos diwethaf. Doedden ni ddim yn ddigon cywir yn ein chwarae ond wedi dweud hynny roedd llawer o agweddau cadarnhaol iawn yn ein perfformiad ac mae’n rhaid i ni adeiladu ar hynny.
“Mae ganddon ni un gêm ar ôl yn y gystadleuaeth ddydd Sadwrn. Ry’n am fynd i Twickenham, bod yn ddidrugaredd a gwella ar ein perfformiad diwetha’n erbyn Japan ddechrau’r mis.”
Bydd chwe gêm yn cael eu cynnal dros dri diwrnod yn Stadiwm Allianz, Twickenham, lle bydd pob un o’r 12 tîm yn cystadlu i sicrhau eu safle terfynol ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd. Mae’n bwysig cofio hefyd bod pob gwlad yn ennill pwyntiau dros eu Hemisffer eu hunain – ac felly erbyn diwedd y penwythnos terfynol byddwn yn gwybod os mai Hemisffer y De neu’r Gogledd sydd gryfaf.
Mae tocynnau ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Japan yn ystod Penwythnos y Rowndiau Terfynol, yn ogystal â’r tri diwrnod llawn o gemau, ar gael yma: Sicrhewch eich tocyn i fod yn bresennol ym Mhenwythnos Rowndiau Terfynol Pencampwriaeth y Cenhedloedd.
Tim Cymru
15. Blair Murray (Scarlets – 22 caps); 14. Louis Rees-Zammit (Bristol Bears | Bryste – 46 caps), 13. Eddie James (Scarlets – 14 caps), 12. Max Llewellyn (Gloucester Rugby | Caerloyw – 16 caps), 11. Josh Adams (Cardiff Rugby | Caerdydd – 74 caps); 10. Sam Costelow (Scarlets – 25 caps), 9. Reuben Morgan-Williams (Ospreys | Gweilch – 5 caps); 1. Rhys Carre (Saracens | Saraseniaid – 32 caps), 2. Ryan Elias (Scarlets – 54 caps). 3. Archie Griffin (Bath Rugby | Caerfaddon – 19 caps),4. Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs | Caerwysg – 34 caps) (Captain | Capten), 5. Adam Beard (Montpellier – 69 caps). 6. Alex Mann (Cardiff Rugby | Caerdydd – 20 caps). 7. James Botham (Cardiff Rugby | Caerdydd – 26 caps), 8. Aaron Wainwright (Leicester Tigers | Caerlŷr – 72 caps).
Replacements: 16. Dewi Lake (Gloucester Rugby | Caerloyw – 37 caps), 17. Gareth Thomas (Ospreys | Gweilch – 46 caps), 18. Dillon Lewis (Dragons | Dreigiau – 62 caps), 19. Taine Plumtree (Scarlets – 17 caps), 20. Jac Morgan (Gloucester Rugby | Caerloyw – 30 caps), 21. Tomos Williams (Saracens | Saraseniaid – 77 caps), 22. Joe Hawkins (Scarlets – 14 caps), 23. Ellis Mee (Scarlets – 11 caps).
