Mae’r Scarlets yn falch o gadarnhau bod Macs Page yn gwella wedi iddo orfod adael y cae yn ail hanner y gêm prynhawn Sadwrn yn erbyn DHL Stormers yn y BKT URC ar ôl iddo ddioddef anaf i’r pen.
Dywedodd llefarydd meddygol y Scarlets: “Fe wellodd Macs yn gyflym ar ôl y gêm. Ni fydd ar gael ar gyfer gêm penwythnos nesaf yn erbyn Vodacom Bulls am y byddwn ni’n dilyn canllawiau World Rugby yn dilyn anaf cyfergyd.”
Fe fydd Macs yn teithio yn ôl o Dde Affrica wythnos yma, yn ogystal â Taine Plumtree a Joe Hawkins a fydd yn ymuno â charfan Cymru yng Ngwesty’r Vale cyn i ymgyrch Pencampwriaeth y Cenhedloedd ddechrau ym mis Tachwedd.
