Mae’r Prif Hyfforddwr Steve Tandy wedi enwi tîm Cymru i wynebu Seland Newydd ddydd Sadwrn 22 Tachwedd yn eu trydedd gêm yng Nghyfres Hydref Quilter yn Stadiwm y Principality (3.10pm – yn fyw ar S4C, TNT Sports a discovery+).
Harri Deaves will become the 1,217th men’s international when he starts for Wales at openside flanker on Saturday.
Alongside Deaves in the back row Alex Mann is named at blindside flanker and Aaron Wainwright is selected at No. 8.
Captain Dewi Lake starts at hooker. Joining him in the front row this weekend are Rhys Carré at loosehead prop and Keiron Assiratti at tighthead prop.
Mae Steve Tandy wedi gwneud dau o newidiadau ymhlith yr olwyr. Mae wedi dewis Joe Hawkins fel rhif deuddeg – ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru ers Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2023. Tom Rogers ar yr asgell yw’r newid arall y tu ôl i’r sgrym.
Ymhlith yr eilyddion, fe allai’r bachwr Brodie Coghlan efelychu camp Deaves wrth wneud ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru, tra bydd y prop pen rhydd Gareth Thomas yn gobeithio gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad hyd yn hyn yn y Gyfres eleni.
Dywedodd Steve Tandy: “Yn amlwg ry’n ni eisiau gwella’n perfformiad o’r penwythnos diwethaf yn erbyn Japan. Fe grëon ni rai eiliadau eithriadol yn erbyn Ariannin. Roedden ni’n siomedig na lwyddon ni i adeiladu ar yr agweddau cadarnhaol hynny’n ddigonol y penwythnos diwethaf. Roedd hi’n braf sicrhau’r fuddugoliaeth wrth gwrs, ond ry’n ni eisiau gwella’n perfformiad yn sylweddol yn erbyn un o dimau gorau’r byd ddydd Sadwrn.
“Mae Joe Hawkins wedi ei ddewis gan ei fod yn cynnig hyblygrwydd i’n gêm ni. Mae’n gallu chwarae fel maswr neu ganolwr cyntaf a gan ei fod wedi ymarfer yn dda yn ystod y tair wythnos ddiwethaf, mae’n hynod o gyffrous ei fod yn cael ei gyfle’r pwnwythnos yma.”
Wrth gyfeirio at gap cyntaf Harri Deaves, dywedodd Tandy: “Mae’r ffaith bod Harri Deaves yn dechrau dros Gymru am y tro cyntaf yn stori wych. Dwi’n meddwl bod ei berfformiadau dros y Gweilch – gyda’r bêl ac hebddi, wedi bod yn arbennig. Dwi’n caru ei agwedd tuag at y gêm.
“Mae’n chwaraewr eithaf bychan o safbwynt ei faint ond mae’n chwaraewr arbennig o gorfforol. Mae’i gyflymder a’i allu wrth ymodsod yn amlwg i bawb. Mae’n gyfle anhygoel i Harri ac ry’n ni gyd yn edrych ymlaen yn fawr at ei weld yn mynd amdani ddydd Sadwrn.”
Tîm Cymru v Seland Newydd – Cyfres Hydref Quilter
15 Blair Murray (Scarlets); 14 Louis Rees-Zammit (Bryste), 13 Max Llewellyn (Caerloyw), 12 Joe Hawkins (Scarlets), 11 Tom Rogers (Scarlets); 10 Dan Edwards (Gweilch), 9 Tomos Williams (Caerloyw); 1 Rhys Carré (Saraseniaid), 2 Dewi Lake (Gweilch; capten), 3 Kieron Assiratti (Caerdydd), 4 Dafydd Jenkins (Caerwysg), 5 Adam Beard (Montpellier), 6 Alex Mann (Caerdydd), 7 Harri Deaves (Gweilch), 8 Aaron Wainwright (Dreigiau).
Eilyddion: 16 Brodie Coghlan (Dreigiau), 17 Gareth Thomas (Gweilch), 18 Archie Griffin (Caerfaddon), 19 Freddie Thomas (Caerloyw), 20 Taine Plumtree (Scarlets), 21 Kieran Hardy (Gweilch), 22 Jarrod Evans (Harlequins), 23 Nick Tompkins (Saraseniaid).
