Daeth Rownd Plant URC i Barc y Scarlets nos Sadwrn gyda chefnogwyr yn eu harddegau yn ymuno yn yr hwyl.
Am y trydydd tymor yn olynol yn y Parc, croesawyd cefnogwyr ifanc y Scarlets i ‘weithio’ swyddi diwrnod gêm ac fe wnaeth pob un yn arbennig o dda.
Ar y meic, ochr yn ochr â’r cyhoeddwr arferol Luke Davies, oedd Ellis Francis (15) gan gyhoeddi’r timau cyn y gêm.
Roedd Celt Edwards a Tom Llewellin, y ddau yn 13 mlwydd oed o Ysgol Bro Preseli, yn gyfrifol am sianel Instagram y Scarlets, gan gymryd lluniau a fideo o’r paratoadau, gan gynnwys cyfarfod Liam Williams a Macs Page sy’n gyn ddisgybl o’r un ysgol.

Roedd Haydn Griffiths (13) wrth law i gynorthwyo ein ffotograffydd swyddogol Riley Sports Photography ac fe dynnodd luniau arbennig (gallwch weld rhai ar ein tudalen Facebook ac Instagram).
Dilynodd Sam Phillips, 15, ein fideograffydd Matty Lynch – cadwch lygad ar ein sianeli cymdeithasol am fideo tu ôl i’r llenni o’i ddiwrnod!
Ymunodd Hannah Harries a Oliver Withers â’r tîm Cymunedol i gynorthwyo gyda’r gweithgareddau diwrnod gêm, gan gynnwys holl hwyl yr her gicio hanner amser gyda chwaraewyr o dimau lleol yn ceisio ennill sesiwn ymarfer gyda hyfforddwyr y Scarlets.
Pa mor dda oedd y tri?

Gwelwyd cicio cywrain gan Elis o Gefneithin dan 12, Gwion o Gydweli dan 12 a Kaiden o dim dan 13 Dinbych y Pysgod. Elis aeth a ni gan gicio’r tri cic yn berffaith.
Mascot y diwrnod oedd Bella Griffiths (6 mlwydd oed). Hoff chwaraewr Bella yw Blair Murray.
Ymunodd Harrison Mann (13) â’r tîm masnachol, gan gyfarfod noddwyr a phartneriaid masnachol wrth iddynt gyrraedd ar gyfer lletygarwch. Cafodd gyfle hefyd i ymuno â chwaraewyr ar gyfer eu dyletswyddau hanner amser yn y blychau lletygarwch.
Cafodd George Golding gyfle i gyfarfod y dyfarnwr Eidaleg Gianluca Gnecchi a’i gynorthwywyr.
Ac yn olaf, cafodd Harri Thomas, wyth mlwydd oed, y cyfle i gyflwyno Handre Pollard â medal Chwaraewr y Gêm, moment a welwyd yn fyw ar Premier Sports.

