Josh Macleod i wneud ei ymddangosiad Chwe Gwlad cyntaf

GwenanDan Sylw, Featured

Capten y Scarlets Josh Macleod fydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ddydd Sadwrn wrth i Gymru herio Lloegr yn Twickenham.

Mae Eddie James hefyd wedi ei ddewis fel canolwr a fydd yn gwneud ei ail ddechreuad i Gymru, wrth i’r asgellwr Ellis Mee paratoi am ei bumed ymddangosiad rhyngwladol.

Ymysg yr eilyddion mae blaenasgellwr y Scarlets Taine Plumtree.

Wrth sôn am ddewis Josh Macleod yn flaen-asgellwr ochr agored, dywedodd Steve Tandy: “Mae Josh wedi cael tipyn o anlwc gyda’i anafiadau, ond mae ganddo lawer iawn o rinweddau. Mae’n arweinydd greddfol, mae ei sylw i fanylder wrth ymarfer yn wych ac mae’n ymarfer gyda dwyster arbennig sy’n ei wneud yn chwaraewr o wir safon. Mae’n rhoi popeth dros yr achos a bydd yn wych ei weld ar y cae ddydd Sadwrn.”

“Mae Cymru’n erbyn Lloegr bob amser yn gêm arbennig. Ry’n ni gyd yn gwybod am yr hanes rhwng y ddwy wlad ar y maes rygbi ac ry’n ni gyd hefyd yn gwybod eu bod nhw’n chwarae rygbi gwych ar hyn o bryd.

Tîm Cymru v Lloegr – Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026

15. Louis Rees-Zammit (Bristol Bears | Bryste – 35 caps)
14. Ellis Mee (Scarlets – 4 caps)
13. Eddie James (Scarlets – 4 caps)
12. Ben Thomas (Cardiff Rugby | Caerdydd – 17 caps)
11. Josh Adams (Cardiff Rugby | Caerdydd – 65 caps)
10. Dan Edwards (Ospreys | Gweilch – 7 caps)
9. Tomos Williams (Gloucester Rugby | Caerloyw – 67 caps)
1. Nicky Smith (Leicester Tigers | Caerlŷr – 58 caps)
2. Dewi Lake (Ospreys | Gweilch – 26 caps) captain | capten
3. Archie Griffin (Bath Rugby | Caerfaddon – 11 caps)
4. Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs | Caerwysg – 26 caps)
5. Adam Beard (Montpellier – 61 caps)
6. Alex Mann (Cardiff Rugby | Caerdydd – 11 caps)
7. Josh Macleod (Scarlets – 4 caps)
8. Aaron Wainwright (Dragons | Dreigiau – 62 caps)

Replacements | Eilyddion

16. Liam Belcher (Cardiff Rugby | Caerdydd – 4 caps)
17. Rhys Carre (Saracens | Saraseniaid – 23 caps)
18. Tomas Francis (Provence Rugby – 77 caps)
19. Ben Carter (Dragons / Dreigiau – 14 caps)
20. Taine Plumtree (Scarlets – 11 caps)
21. Harri Deaves (Ospreys | Gweilch – 1 cap)
22. Kieran Hardy (Ospreys | Gweilch – 28 caps)
23. Mason Grady (Cardiff Rugby | Caerdydd – 15 caps)