Josh yn dychwelyd a Fletcher yn barod am ei ymddangosiad cyntaf

Rob LloydFeatured

Y capten Josh Macleod sy’n arwain ochr sy’n cynnwys ein chwaraewyr newydd Fletcher Anderson a fydd yn herio’r Harlequins mewn gêm gyfeillgar yn y Stoop ar nos Wener (19:45).

Mae Macleod wedi bod yn absennol ers y gêm agoriadol o’r bencampwriaeth yn dilyn anaf i’w gyhyr pectoral.

Hefyd yn ôl yn y garfan mae’r chwaraewr rhyngwladol Eddie James, sydd wedi gwella o anaf hirdymor i’w gefn.

Mae’r prif hyfforddwr Dwayne Peel wedi enwi carfan gref i baratoi ar gyfer ailddechreuad y Bencampwriaeth Rygbi Unedig wrth i’r Scarlets wynebu Glasgow Warriors penwythnos nesaf, gyda grŵp o 28 chwaraewr yn teithio i Orllewin Llundain.

Ellis Mee, Jac Davies a Tomi Lewis sydd wedi’u henwi yn y tri ôl. Yng nghanol cae mae James yn cyfuno gyda Johnny Williams. Sam Costelow a Gareth Davies sydd wedi’u henwi fel ein haneri.

Yn y rheng flaen mae Kemsley Mathias, Marnus van der Merwe ac Archer Holz, tra bod Dan Gemine yn cydweithio â Sam Lousi yn yr ail reng.

Fletcher Anderson fydd yn cychwyn yn safle’r wythwr mewn rheng ôl sydd hefyd yn cynnwys Macleod a Jarrod Taylor.

Gydag 13 chwaraewr wedi’u henwi ar y fainc, mae’r maswr 17 oed Carwyn Leggatt-Jones a’r chwaraewr rheng ôl Kai Jones yn paratoi am eu hymddangosiad cyntaf yng nghrys y Scarlets.

Tîm y Scarlets i chwarae’r Harlequins, Dydd Gwener, Tachwedd 21 (19:45)

15 Ellis Mee; 14 Jac Davies, 13 Johnny Williams, 12 Eddie James, 11 Tomi Lewis; 10 Sam Costelow, 9 Gareth Davies; 1 Kemsley Mathias, 2 Marnus van der Merwe, 3 Archer Holz, 4 Dan Gemine, 5 Sam Lousi, 6 Jarrod Taylor, 7 Josh Macleod (capt), 8 Fletcher Anderson.

Eilyddion: 16 Harry Thomas, 17 Sam O’Connor, 18 Henry Thomas, 19 Kai Jones, 20 Osian Williams, 21 Dane Blacker, 22 Carwyn Leggatt-Jones, 23 Macs Page, 26 Ben Williams, 27 Gabe McDonald, 28 Dan Davis, 29 Josh Morse, 30 Harri O’Connor.