Os mai chi yw’r person sy’n gorfod trefnu digwyddiadau eich teulu neu grwp o ffrindiau, mae gyda ni’r newyddion perffaith ar eich cyfer! Mae lletygarwch ar werth nawr ar gyfer pob gêm gartref y Scarlets yn y BKT URC a Chwpan Her Ewrop yn 2026-27!
Mae gyda ni ddetholiad amrywiol o becynnau ar gyfer pob achlysur, o bartïon plant i nosweithiau masnachol.
Archebwch le yng Nghlwb Busnes Cadog Homecare neu Clwb Carwyn yma
Clwb Carwyn
Os ydych am fwynhau awyrgylch clwb rygbi traddodiadol, holl gyffro’r gêm a diodydd am ddim cyn y gêm y Clwb Carwyn yw’r lle ar eich cyfer chi! O £95 y pen fe fydd eich pecyn yn cynnwys;
- Mynediad i Lolfa Carwyn James, sydd â golygfa panoramig dros y cae
- Pryd un cwrs
- Sesiwn Holi ac Ateb gyda cyn chwaraewr
- Sedd gyfforddus tu allan i’r lolfa i wylio’r gêm
- A diodydd am ddim am ddwy awr cyn y gêm
Clwb Busnes Cadog Homecare
Mae gan brofiad diwrnod gêm VIP y Scarlets yng Nghlwb Busnes Cadog Homecare enw da am fod yn un o’r rhai mwyaf cofiadwy a phleserus. Rydym yn cyfuno brand ac arddull rygbi’r Scarlets ar y cae â chynigion cynnes a sylwgar yn ein Lolfa Quinnell. Dyma’r lle i rwydweithio neu ymlacio. O £150 y pen, bydd eich pecyn yn cynnwys;
- Mynediad cyn ac ar ôl y gêm i Lolfa Quinnell Cadog Homecare
- Pryd o fwyd tri chwrs
- Sesiwn Holi ac Ateb cyn y gêm
- Tocyn gêm premiwm
- Danteithion blasus ar ôl y gêm
I archebu y naill pecyn neu’r llall, cliciwch yma
Rydyn ni’n falch iawn o gynnig pecyn tocyn gêm ac aros dros nos mewn cydweithrediad â Gwesty’r Diplomat, Llanelli.
I ddarganfod mwy am ein pecyn gwely, brecwast a rygbi cliciwch yma
Cysylltwch ag aelod o’n tî, os hoffech mwy o wybodaeth am ein Blwch Penblwydd, Blwch Cymdeithasol enu lletygarwch Scarlets v Saracens.
