Macs Page wedi’i alw i garfan Cymru

Rob LloydFeatured

Mae Macs Page wedi’i alw i ymuno â charfan Cymru ar gyfer gemau mis Tachwedd ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd.

Mae asgellwr y Dreigiau Rio Dyer wedi’i rhyddhau yn dilyn anaf llinyn y gar yn dilyn gêm Pencampwriaeth Rygbi Unedig yn erbyn y Gweilch ar ddydd Sadwrn.

Page fydd yr wythfed Scarlet i gael eu henwi yng ngharfan Steve Tandy ar gyfer y pedair Prawf, yn ymuno â Blair Murray, Ellis Mee, Eddie James, Joe Hawkins, Sam Costelow, Taine Plumtree a Ryan Elias.

Mae’r gwibiwr 21 oed o Sir Benfro wedi serennu yn rownidau agoriadol y tymor, gan groesi am saith cais ar y cyfan.