Mae’r Scarlets yn disgwyl ymlaen i ddechrau’r tymor cartref mewn steil, gyda gwyl rygbi arbennig i ysgolion ym Mharc y Scarlets i ddathlu’r genhedlaeth nesaf o sêr.
Fe fydd yr wyl rygbi, mewn cydweithrediad â IntroTeach, yn gyfle i groesawu ysgolion o’r rhanbarth at ei gilydd ym Mharc y Scarlets, gan rhoi cyfle i chwaraewyr ifanc i fwynhau diwrnod arbennig o rygbi, cymuned ac ysbryd y Scarlets.
Fe fydd y digwyddiad yn arwain at gêm gyfeillgar olaf y Scarlets yn erbyn y Saracens o dan y llifoleuadau ym Mharc y Scarlets, Medi 18 cic gyntaf 19:30.
Gyda’r tymor newydd ar y gorwel, mae’r gêm yn cynnig y cyfle perffaith i gefnogwyr gefnogi’r tîm, mwynhau noson yn y stadiwm a chynorthwyo’r Scarlets i ddechrau’r tymor cartref ar nodyn bositif cyn gêm agoriadol Pencampwriaeth Rygbi Unedig BKT.
Mae’n addo bod yn noson a hanner ym Mharc y Scarlets.
Rydyn ni’n edrych ymlaen i groesawu disgyblion, staff a rhieni o’r ysgolion canlynol;
Ysgol Gymraeg Ffwrnes
Ysgol Gymraeg Ffwrnes
Bryn Community Primary School
Ysgol Yr Hendy
Ysgol Pen Rhos
Golden Grove Primary School
Tenby church in wales VC primary school
Johnstown Primary School
Cleddau Reach VC Primary School
Spittal VC Primary School
Ysgol Y Ddwylan
Ysgol Y Bedol
Burry Port Community Primary School
Dewch â’ch ysgol. Dewch â’ch fffrindiau. Dewch â’r swn!
Helpwch ni i ddechrau’r tymor ym Mharc y Scarlets ar nodyn arbennig. Mae tocynnau ar gael yma
