Bydd y Scarlets yn croesawu’r Saraseniaid i Barc y Scarlets wrth i ni baratoi i gychwyn y tymor newydd 2026-27 o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Gyda’r tìm o Lundain yn teithio i lawr yr M4 i Lanelli ar ddydd Gwener, Medi’r 18 (cic gyntaf am 19:30), bydd y ddau ochr eisiau paratoi o flaen cychwyniad eu hymgyrchoedd newydd.
Yn enillwyr sawl teitl uwch-gynghrair ac Ewropeaidd, mae Sarries wedi llofnodi chwaraewyr fel mewnwr Cymru a’r Llewod Tomos Williams, a’r chwaraewr rheng ôl o Gaerfaddon, Alfie Barbeary, ar gyfer y tymor nesaf i ychwanegu at y rhestr sy’n cynnwys sêr Lloegr a’r Llewod, Maro Itoje, Owen Farrell a Ben Earl.
Y tro diwethaf wnaeth y ddau dìm gwrdd oedd dwy flynedd yn ôl yng ngogledd Llundain, gêm a enillwyd 40-21 gan y tîm cartref.
Y gêm gystadleuol ddiweddaraf rhwng y clybiau oedd yng Nghwpan Anglo-Gymreig 2016-17 ym Mharc y Scarlets, gyda’r tîm yn cynnwys capten presennol y Scarlets Josh Macleod, yr hyfforddwr Emyr Phillips a’r chwaraewyr rhyngwladol Max Malins, Ben Earl, Nick Isiekwe a Nick Tompkins yn y tìm oddi cartref.
Mae mynediad am ddim i’r gêm i Ddeiliaid Tocynnau Tymor 2026-27
I fod yn rhan o daith y Scarlets gallwch brynu eich tocyn tymor YMA
Bydd y Scarlets yn cychwyn eu hymgyrch URC gyda derbi Gymreig yn erbyn Caerdydd ym Mharc y Scarlets ar ddydd Sadwrn, Medi 26.
Cyhoeddir gwybodaeth am gemau gyfeillgar pellach yn yr wythnosau nesaf.
