Scarlets yn dod a chyffro i Eisteddfod y Garreg Las

GwenanNewyddion, Newyddion Cymuned

Mwynhaodd y Scarlets wythnos arbennig yn Eisteddfod y Garreg Las, yn cyfarfod cefnogwyr, ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf ac yn dathlu’r Gymraeg a hunaniaeth gorllewin Cymru.

Yn ardal arbennig Llantwd, gogledd Sir Benfro, roedd y Scarlets wedi eu lleoli yn y Pentref Plant gan rhoi cyfle i blant ifanc fwynhau gweithgareddau, gan gynnwys gemau pasio, sesiynau sgiliau a gweithgaredd lliwio.

Roedd Cochyn, mascot y Scarlets, yn bresennol hefyd gan ymuno yn yr hwyl.

Roedd dydd Mercher yn uchafbwynt yn ystod yr wythnos gyda pum o chwaraewyr y Scarlets yn bresennol ar y Maes. Cafodd Josh Macleod, Ioan Nicholas, Macs Page, Jac Price ac Archie Hughes gyfle i gyfarfod cefnogwyr, llofnodi posteri, a chymryd rhan mewn sesiynau sgiliau.

Roedd yr ymweliad â’r Eisteddfod yn gyfle i gyfarfod cefnogwyr tra’n pwysleisio cysylltiad y Scarlets â’r rhanbarth ac iaith Gymraeg yn y gymuned. Mae Josh, Ioan, Macs a Jac yn siaradwyr Cymraeg gydag Archie wrthi’n dysgu’r Gymraeg ar hyn o bryd.

I Sefydliad Gymunedol y Scarlets, roedd yr Eisteddfod yn gyfle arall i fynd â gweithgaredd y clwb i’r rhanbarth ac i ddathlu pob peth sy’n gwneud y rhanbarth yn unigryw – y bobl, y diwylliant, yr iaith a’r angerdd am rygbi.

Mae gwaith y Sefydliad Gymunedol yn parhai wythnos nesaf pan fydd y tîm yn mynychu Sioe Sir Benfro ar Awst 19 a 20.