Mae aelodau staff y Scarlets wedi cwblhau her llafurus o gerdded arfordir Gorllewin Cymru, gan godi dros £2,500 i Sefydliad Cymunedol y Scarlets.
Aeth tîm o naw, yn cynnwys adrannau’r Sefydliad, y stadiwm a rygbi, ati i redeg dau farathon dros ddau ddiwrnod heulog, gan gronni 52 milltir i gyd (gyda uchder o 6,000 troedfedd), a cherdded am 10 awr bob dydd.
Mewn tymereddau o 25 gradd a mwy, cychwynnodd y tîm o harbwr Aberaeron, gan anelu at dref glan môr boblogaidd Cei Newydd yng Ngheredigion cyn cerdded y llwybr tonnog ar ochr y clogwyn ar draws i Langrannog.
Ar ôl tynnu llun gyda cherflun Sant Carannog sy’n sefyll ar y clogwyn sy’n edrych dros Langrannog, fe aethon nhw ar y llwybr tua’r de i Aberporth cyn gorffen wrth y capel canoloesol hardd sy’n edrych dros draeth godidog Mwnt.

Diolch yn fawr iawn i Glwb Rygbi Crymych am ddarparu llety dros nos yn y clwb rygbi, gan ganiatáu i bawb ailwefru ar gyfer ail gymal yr her ar draws arfordir arobryn Sir Benfro.
Gan ddechrau ym Manobier yng nghysgod y castell, aeth y llwybr i Glaf Lydstep, ar draws i Ddinbych-y-pysgod, Saundersfoot, Amroth ac ymlaen i draeth enwog Pendine.
Gadawodd hynny un gwthiad olaf i Dalacharn, gan orffen ger Castell Talacharn gyda 52 milltir anhygoel wedi’u cwblhau.
Hoffai’r Sefydliad ddiolch i bawb a gefnogodd y tîm ar hyd y ffordd, y rhai a roddodd at yr achos a’r rhai a sgwrsiodd â’r cerddwyr ar hyd y llwybr.

Sefydliad Cymunedol y Scarlets yw cangen elusennol y Scarlets, gyda’i waith yn canolbwyntio ar gynyddu cyfranogiad rygbi ar draws y rhanbarth, cefnogi cynhwysiant cymdeithasol a hyrwyddo iechyd a lles.
Gallwch rhoi at yr achos YMA

