Taith gerdded i godi arian wedi’i gohirio

Rob LloydNewyddion, Newyddion Cymuned

Yn anffodus, mae her codi arian Sefydliad Cymunedol y Scarlets, sef cerdded dau farathon mewn dau ddiwrnod ar Lwybr Arfordir Cymru, wedi’i gohirio i ddyddiad diweddarach.

Mae glaw trwm a ragwelir ar gyfer dydd Iau, pan oedd y daith gerdded i fod i ddechrau, wedi golygu ein bod wedi penderfynu aildrefnu’r daith gerdded er mwyn sicrhau diogelwch y staff sy’n cymryd rhan.

Bydd pob milltir a gwblheir yn ystod yr her yn cefnogi gwaith y Sefydliad ar draws y rhanbarth.

Diolch i bawb sydd eisoes wedi rhoi. Bydd y dudalen codi arian yn aros ar agor yma ac rydym yn gobeithio am dywydd gwell!