Tîm cymunedol yn teithio ar draws y rhanbarth ar gyfer gwersylloedd rygbi hanner tymor

Rob LloydNewyddion, Newyddion Cymuned

Yn dilyn penwythnos Gŵyl y Banc llwyddiannus yn cynnal Rownd Derfynol Cymunedol Dunbia, dychwelodd tîm y Sefydliad Cymunedol i gyflwyno gwersylloedd yn ystod gwyliau ysgol y Sulgwyn.

Yn lwcus gyda’r tywydd gwanwyn gwych, dechreuodd yr wythnos gyda phedwar Gwersyll Fit, Fed, Fun yng Nghanolfan Bowlio Rhydaman, Clwb Rygbi Aberteifi, Abergwaun ac Wdig, ac Aberdaugleddau, gyda 85 o blant yn mynychu ar draws y pedwar lleoliad.

Roedd yn wych cydweithio ag awdurdodau lleol a phartneriaid allanol gyda’u cefnogaeth yn helpu i ddarparu amrywiaeth ehangach o weithgareddau a phrofiadau i bawb a oedd yn cymryd rhan.

Yna daeth Gwersyll Hanner Tymor Rygbi’r Scarlets, sydd bob amser yn boblogaidd, ym Mharc y Scarlets, lle cymerodd 35 o bobl ifanc ran yn ceisio datblygu eu sgiliau rygbi, cyn i’r tîm fynd ar daith gyda gwersylloedd yng Nghlwb Rygbi Llanbedr Pont Steffan a Chlwb Rygbi Crymych, gan ddenu 60 o gyfranogwyr pellach ar draws y ddau leoliad.

Dywedodd Rheolwr Sefydliad Cymunedol y Scarlets, Paul Fisher: “Yn dilyn penwythnos gwych o Rowndiau Terfynol y Gymuned, mae’r tîm wedi mwynhau yma yn y Parc ac o gwmpas y rhanbarth gydag amrywiaeth o weithgareddau hwyliog a diddorol mewn tywydd godidog, gan greu gweithgaredd corfforol ac ymgysylltu cymunedol.”