Tîm dan 20 Cymru wedi’i enwi i wynebu’r Alban

Rob LloydNewyddion, Newyddion yr Academi

Mae prif hyfforddwr tîm dan 20 Cymru, Richard Whiffin, wedi enwi ei dîm i herio’r Alban yn y Wern, Merthyr, ddydd Gwener (Cic Cyntaf 12.30pm).

Bu’r capten Tom Cottle a’r blaenwyr eraill Jac Pritchard, Ryan Jones ac Evan Minto ynghyd â’r olwyr Sion Davies, Osian Darwin-Lewis, Lewis Edwards a’r eilydd o fewnwr Ellis Lewis i gyd yn aelodau o’r garfan D20 y tymor diwethaf.

Dywedodd Richard Whiffin: “Mae gennym gryn dipyn o fechgyn yn dod nôl atom eleni. Bydd yn beth da iddyn nhw gael mwy o brofiad. Ar y llaw arall bydd nifer o fois yn cael eu profiad cyntaf o rygbi dan 20 a bydd pawb yn gwybod yn iawn bod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar y gorwel.”

Mae Richard Whiffin yn gobeithio y bydd ei chwaraewyr profiadol yn rhoi ei dîm ar y droed flaen yn erbyn yr Albanwyr.

“Maen nhw’n gwybod yr arddull yr hoffwn ni eu gweld yn chwarae ac mae’r bechgyn profiadol yn deall yr ymdrech sydd ei hangen ar y lefel yma. Bydd cael y criw hŷn sydd wedi bod gyda ni’r llynedd yn helpu’r bechgyn iau’n fawr. Dwi’n hapus iawn gyda’r gymysgedd a’r cydbwysedd sydd yn y garfan wrth i ni droi’n golygon at y Chwe Gwlad.”

“Fe deithion ni i Ffrainc gyda’r garfan D19 yn ddiweddar a bydd y ddwy gêm D20 yma’n erbyn Yr Alban yr wythnos hon a Lloegr yr wythnos nesaf wedi rhoi’r cyfle i ni weld hyd at 60 o chwaraewyr.

“Dyw hynny ddim yn cynnwys Deian Gwynn sy’n chwarae yng Nghwpan Ewrop ar hyn o bryd, na chwaith Tom Bowen a Steffan Emanuel sydd wedi bod yn cymryd rhan yn y Cwpan Her. Bydd y tri ohonyn nhw hefyd ar gael i ni wedi’r Nadolig.”

Cymru dan 20 v Yr Alban dan 20, Y Wern, Merthyr Tudful, Gwener 12 Rhagfyr 12.30

15 Lewis Edwards (Ospreys); 14 Evan Morris (Bristol Bears), 13 Osian Darwin-Lewis (Cardiff Rugby), 12 Luc Anfield (Bath University), 11 Rhys Cummings (Cardiff Rugby); 10 Carwyn Leggatt-Jones (Scarlets), 9 Sion Davies (Cardiff Rugby); 1 George Tuckley (Dragons), 2 Tom Howe (Cardiff Rugby), 3 Jac Pritchard (Scarlets), 4 Oscar Rees (Gloucester), 5 Tom Cottle (Cardiff Rugby – Capt), 6 Osian Williams (Scarlets), 7 Ryan Jones (Dragons), 8 Evan Minto (Dragons)

Eilyddion

16 James Talamai (Dragons), 17 George Leyland (Bristol Bears), 18 Callum Donaghue-Proud (Cardiff Rugby), 19 Osian Williams (Bristol Bears), 20 Joe Denman (Scarlets), 21 Cerrig Smith (Dragons), 22 Ellis Lewis (Swansea RFC), 23 Steff Jac Jones (Scarlets), 24 Thomas Williams (Scarlets), 25 Jack Hoskins (Ospreys), 26 Joseff Jones (Cardiff Rugby).