Mae’r Prif Hyfforddwr Steve Tandy wedi enwi tîm Cymru i wynebu’r Alban yn nhrydedd rownd y gemau ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026 yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn 21 Chwefror (4.40pm, yn fyw ar S4C a BBC1).
Mae pedwar newid i’r pymtheg cychwynnol ar gyfer ail gêm gartref Cymru ym Mhencampwriaeth 2026.
Bydd Gabriel Hamer-Webb yn dechrau ar yr asgell ddydd Sadwrn, ac ef fydd y 1,221fed chwaraewr i gynrychioli tîm cenedlaethol dynion Cymru.
Mae Ben Carter wedi’i ddewis yn glo i bartneru Dafydd Jenkins yn yr ail reng. Dyma fydd y tro cyntaf i Carter ddechrau gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Mae Sam Costelow wedi’i ddewis yn faswr – a dyma fydd ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn y Bencampwriaeth eleni.
Yn y rheng ôl, mae Taine Plumtree wedi ei ddewis yn flaenasgellwr ochr dywyll – a dyma fydd y tro cyntaf iddo ef ddechrau gornest yn y Chwe Gwlad hefyd. Bydd Alex Mann yn parhau fel blaenasgellwr ochr agored ond bydd Aaron Wainwright yn symud yn ôl i safle’r wythwr yr wythnos hon. Ymhlith yr eilyddion, mae Freddie Thomas, James Botham a Blair Murray i gyd yn barod i wneud eu hymddangosiadau cyntaf dros Gymru yn yr ymgyrch hon.
Dywedodd Steve Tandy: “Mae rhai newidiadau i’r tîm yr wythnos yma, gan ein bod ni’n teimlo mai hwn yw’r tîm gorau i wynebu’r Alban yn benodol. Mae’r ffaith mai dim ond chwe niwrnod sydd rhwng y gemau’r tro yma wedi golygu bod angen i ni ddod ag ychydig o waed newydd i mewn i’r tîm y tro hwn.
“Hon yw ein trydedd gêm yn y Bencampwriaeth eleni ac ry’n ni eisiau adeiladu ar agweddau cadarnhaol ein perfformiadau hyd yma. Ry’n ni eisiau gweld mwy o gysondeb a dilyniant yn ein chwarae, ac os y gallwn ni wneud hynny, fe fyddwn ni’n dod yn llawer nes at gael y canlyniad ry’n ni ei eisiau.”
Tîm Cymru v Yr Alban
15 Louis Rees-Zammit (Bryste) 14 Gabriel Hamer-Webb (Caerlŷr), 13 Eddie James (Scarlets), 12 Joe Hawkins (Scarlets), 11 Josh Adams (Caerdydd); 10 Sam Costelow (Scarlets), 9 Tomos Williams (Caerloyw); 1 Rhys Carre (Saraseniaid), 2. Dewi Lake (Gweilch, capt), 3 Tomas Francis (Provence Rugby), 4. Dafydd Jenkins (Caerwysg), 5. Ben Carter (Dreigiau), 6. Taine Plumtree (Scarlets), 7 Alex Mann (Caerdydd) 8 Aaron Wainwright (Dreigiau).
Replacements: 16 Ryan Elias (Scarlets), 17 Nicky Smith (Caerlŷr), 18 Archie Griffin (Caerfaddon), 19 Freddie Thomas (Caerloyw), 20 James Botham (Caerdydd), 21 Kieran Hardy (Gweilch), 22. Jarrod Evans (Harlequins), 23 Blair Murray (Scarlets).
