Mae’r Scarlets yn falch iawn o gyhoeddi ymestyniad i’r bartneriaeth arbennig gyda Castell Howell, un o frandiau mwyaf gorllewin Cymru.
Fe fydd Castell Howell yn parhau fel noddwr swyddogol Eisteddle’r De ym Mharc y Scarlets gydag arwyddion newydd i’w dadorchuddio cyn bo hir.
Mae Castell Howell hefyd yn parhau fel un o brif bartneriaid y cit, gan gadw ei safle amlwg ar grys y Scarlets. Yn ogystal â hyn, fe fydd logo Castell Howell yn ymddangos ar ambell eitem o ddillad hamdden, a fydd ar werth yn siop VX3.
Gan ymestyn ei rôl ym Mharc y Scarlets, fe fydd Castell Howell yn parhau fel prif gyflenwr bwyd a diod ar draws y stadiwm. Mae’r cwmni hefyd wedi sicrhau hawliau cyflenwi cwrw i’r stadiwm.
Ffurfiwyd Castell Howell, cyfanwerthwr teuluol gyda phwyslais ar gynnyrch Cymreig, wedi’i leoli yn Sir Gaerfyrddin, gan gyfarwyddwr y Scarlets, Brian Jones, ar ei fferm ym 1988 ac mae wedi sefydlu ei hun fel grym amlwg yn niwydiant gwasanaeth bwyd y DU yn ogystal â phresenoldeb dibynadwy a pharchus yng nghymuned gorllewin Cymru, gan gefnogi nifer o brosiectau lleol a sefydliadau chwaraeon.
Bydd Castell Howell yn gweithio’n agos gyda Sefydliad Cymunedol y Scarlets ar ystod o fentrau, gan gynnwys darparu samplau bwyd stryd iach i blant yn Arena FSG yn ystod gemau dethol i hyrwyddo dewisiadau ffordd o fyw iachach ymhlith cefnogwyr ifanc.
Bydd Parc y Scarlets hefyd yn parhau i fod yn lleoliad pwysig ar gyfer sioeau masnach poblogaidd Castell Howell, gan gryfhau ymhellach y cysylltiadau masnachol rhwng y ddau sefydliad.
Dywedodd Garan Evans, Rheolwr Masnachol y Scarlets: “Rydym wrth ein bodd yn ymestyn ein partneriaeth â Castell Howell, cwmni sydd wedi bod yn bartner gwerthfawr a dibynadwy i’r Scarlets ers blynyddoedd lawer. Mae eu hymrwymiad parhaus ar draws sawl maes o’r clwb, o brofiad diwrnod gêm i fentrau cymunedol, yn tynnu sylw at gryfder ein perthynas.
“Ry’n ni’n ddiolchgar am gefnogaeth parhaus Brian, Martin a’r teulu, a thrwy atgyfnerthu ein partneriaeth nid yn unig y mae’n gwella’r hyn y gallwn ei gynnig i’n cefnogwyr ym Mharc y Scarlets, ond mae hefyd yn caniatáu inni weithio gyda’n gilydd ar brosiectau cymunedol sy’n elwa pobl ledled gorllewin Cymru.”
Dywedodd Martin Jones, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Trafnidiaeth Castell Howell: “Fel busnes Cymreig, rydym yn cydnabod yn llawn y rôl hanfodol y mae’r Scarlets a chlybiau lleol ar lawr gwlad yn ei chwarae wrth ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr — rhywbeth yr ydym yn wirioneddol angerddol am ei gefnogi.
“Gan ein bod yn fusnes teuluol balch, mae ein hymrwymiad yn mynd ymhell y tu hwnt i’r cae chwarae. Gyda gemau’n cael eu chwarae ym Mharc y Scarlets, rydym wrth ein bodd yn cefnogi nid yn unig y tîm ond hefyd y nifer o fusnesau lleol rydym yn eu cyflenwi ar draws y rhanbarth. Mae cefnogwyr sy’n dod i gefnogi’r Scarlets hefyd yn dod â hwb croesawgar i fusnesau lletygarwch a manwerthu cyfagos, gan helpu i ychwanegu bywiogrwydd gwirioneddol i’r gymuned leol.
“Mae parhau fel prif gyflenwr gwasanaethau bwyd a diod, ynghyd â sicrhau’r hawliau ‘partner tywallt’ newydd, yn newyddion gwych i’r gadwyn gyflenwi Gymreig. Mae hefyd yn creu cyfle pellach i ehangu’r ystod o gynnyrch Cymreig sydd eisoes yn cael ei gyflenwi ledled y stadiwm, gan gryfhau ein hymrwymiad ar y cyd i gefnogi cynhyrchwyr lleol ac arddangos y gorau o Gymru.
“I ni, mae’r weledigaeth yn parhau’n glir – sicrhau bod pawb, o gefnogwyr rygbi i fusnesau a chyflenwyr lleol, yn elwa o’n cyfranogiad. Mae gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r cymunedau rydym yn gofalu amdanynt yn fawr wrth wraidd pwy ydym ni fel busnes teuluol.”
