Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Steve Tandy, wedi enwi tîm Cymru i wynebu’r Eidal ar benwythnos olaf Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026, ddydd Sadwrn y 14eg o Fawrth, gyda’r gic gyntaf am 4.40pm.
Nid oes unrhyw newidiadau wedi eu gwneud i’r pymtheg ddechreuodd yn erbyn Iwerddon yr wythnos ddiwethaf.
Mae Blair Murray wedi’i enwi ymhlith yr eilyddion am yr eildro yn y Bencampwriaeth eleni.
Dywedodd Steve Tandy: “Mae gallu enwi tîm heb unrhyw newid i ddechrau’r gêm hon, yn dangos pa mor glós a chyson y mae’r bechgyn hyn wedi tyfu gyda’i gilydd. Mae hefyd yn adlewyrchiad o safon ein perfformiad mas yn Iwerddon.
“Bydd angen i ni godi’n perfformiad i lefel arall y penwythnos hwn.
“Yn ystod y Bencampwriaeth hyd yma, fe berfformion ni’n dda am gyfnodau yn erbyn Ffrainc ac fe adeiladon ni’n gryf ar hynny wrth wynebu’r Alban. Ro’n ni’n meddwl ein bod wedi chwarae’n dda iawn y diwrnod hwnnw. Yn erbyn Iwerddon wedyn fe wnaethon ni godi’n lefelau eto i wynebu eu her gorfforol. Nawr mae’n rhaid i ni ddod â’r cyfan at ei gilydd a chreu ein perfformiad gorau o’r Bencampwriaeth y penwythnos yma.”
Wrth sôn am ddychwelyd adref ar gyfer gêm olaf y Bencampwriaeth, ychwanegodd Tandy: “I’r tîm ac i fi fy hun, mae’r ffaith ein bod yn mynd yn ôl i Stadiwm Principality yn anhygoel. Gwnaeth y bois yn dda iawn i greu eu hegni eu hunain yn erbyn Iwerddon, ond does dim byd gwell [na chwarae gartref].
“Mae’r bois wedi dweud yn gyson mewn cyfarfodydd ers gêm Yr Alban, gymaint yr oedd yr achlysur hwnnw’n ei olygu iddyn nhw. Mae’r un peth yn wir am y gemau cartref diweddar yn erbyn Ffrainc a Seland Newydd – gan bo’r cefnogwyr wedi bod yn anhygoel.
“Gyda’u cefnogaeth arbennig nhw, mae’r tîm yn mynd i wneud eu gorau i berfformio’n dda er eu mwyn nhw a’r genedl gyfan.”
Cymru v Yr Eidal – Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness
15 Louis Rees-Zammit (Bryste) 14 Ellis Mee (Scarlets), 13 Eddie James (Scarlets), 12 Joe Hawkins (Scarlets), 11 Josh Adams (Caerdydd); 10 Dan Edwards (Gweilch), 9 Tomos Williams (Caerloyw); 1 Rhys Carre (Saraseniaid), 2. Dewi Lake (Gweilch, capt), 3 Tomas Francis (Provence Rugby), 4. Dafydd Jenkins (Caerwysg), 5. Ben Carter (Dreigiau), 6 Alex Mann (Caerdydd), 7 James Botham (Caerdydd), 8 Aaron Wainwright (Dreigiau)
Eilyddion: 16 Ryan Elias (Scarlets), 17 Nicky Smith (Caerlŷr), 18 Archie Griffin (Caerfaddon), 19 Adam Beard (Montpellier), 20 Olly Cracknell (Caerlŷr), 21 Kieran Hardy (Gweilch), 22. Jarrod Evans (Harlequins), 23 Blair Murray (Scarlets).
