Archebwch lletygarwch nawr ar gyfer tymor 2025-26

Rob LloydNewyddion

Mae pecynnau lletygarwch ar gael ac yn barod i’w harchebu ar gyfer tymor 2025-26 y Scarlets.

Bydd Parc y Scarlets yn llwyfannu un ar ddeg gêm gartref y Scarlets y tymor nesaf, naw ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig BKT a dwy gêm grwp wpan Pencampwyr Investec.

Bydd y Scarlets yn croesawu Northampton Saints, a ddaeth yn ail yng Nghwpan Pencampwyr Investec 2024-25, i’r Parc, ynghyd â gemau darbi mawr yn erbyn Rygbi Caerdydd, Clwb Rygbi’r Dreigiau, a’r Gweilch ar Ddydd San Steffan.

Profwch groeso gwych yn ein lolfa unigryw, Lolfa Carwyn James, lle mae clwb rygbi traddodiadol yn cwrdd â chyffro rygbi byw.

Yn ogystal â phryd un cwrs, fe fyddwch yn cael mwynhau diodydd am ddim hyd at y gic gyntaf, sesiwn holi ac ateb gyda chyn chwaraewyr, a sedd tu allwn i’r lolfa i wylio’r gêm.

Mae pecyn Clwb Carwyn, sydd yn £89 y pen, yn cynnwys;

  • Pryd un cwrs
  • Diodydd am ddim hyd at y gic gyntaf
  • Rhaglen diwrnod gêm digidol
  • Sesiwn holi ac ateb
  • Mynediad i letygarwch dwy awr cyn y gic gyntaf ac hyd at ddwy awr ar ôl y chwiban olaf
  • Sedd tu allan i’r lolfa
  • Byrddau cymysg
  • Wifi am ddim
  • Teledu yn y lolfa i wylio gemau

Prynnwch eich pecyn lletygarwch nawr, yma

Mae opsiynau am y tymor ar gael yn Lolfa Quinnell ac yn ein Blychau Lletygarwch.

Mae Lolfa Quinnell yn cynnig opsiwn cyfforddus a chyfeillgar iawn i wylio’r gêm, tra’n cyfarfod cwmniau eraill sy’n rhan o’n Clwb Busnes.

Mae’r Clwb Busnes diwrnod gêm yn ffordd arbennig i gwmniau rhwydweithio, tra’n mwynhau pryd tri chwrs, seddau canolog i wylio’r gêm, sesiwn holi ac ateb gyda chwaraewyr a gwestai arbennig, yn ogystal â danteithion ar ôl y gêm.

Mae’r Blychau Lletygarwch yn ffordd arbennig i chi fwynhau gêm mewn awyrgyclh ychydig yn fwy preifat. Blwch i chi’ch hun, gyda lle i hyd at 12 person, a staff gweinyddol i ofalu ar eich hôl trwy gydol eich hymweliad. Boed yn grwp o deulu a ffrindiau, neu’n gwmni’n chwilio am ffordd i ddiolch i staff, mae Blwch Lletygarwch yn ffordd arbennig o ddathlu ac ymlacio.

Cysylltwch â’r tîm masnachol am wybodaeth pellach am becynnau masnachol / hyd tymor trwy ffonio 01554 292939 neu ar ebost [email protected]