Diwrnod Gêm

Image
Image

Mae croeso i glybiau rygbi ac ysgolion gymryd rhan yn ein rygbi TAG ym Juno Moneta Mhentref y Cefnogwyr cyn gemau’r Scarlets ar ein cae artiffisial. Fe fydd timau ieuenctid wedyn yn rhan o’r cyffro ar y cae gan chwarae rygbi TAG neu rygbi cyffwrdd yn ystod seibiant hanner amser.

Mae llefydd yn llenwi’n gyflym felly gwnewch yn siwr eich bod chi’n cysylltu â ni i gadw’ch lle! Ebostiwch [email protected]

Mae gemau cartref y Scarlets yn cynnig cyfle unigryw i deuluoedd fwynhau profiad diwrnod gêm na gewch chi yn unrhyw le arall.

PROFIAD

Dewch i fod yn rhan o brofiad bythgofiadwy diwrnod gêm y Scarlets a mwynhau diwrnod arbennig i’r teulu oll. Mae Parc y Scarlets ar ddiwrnod gêm yn llawer mwy na 80 munud o rygbi, mae hefyd yn gyfle i chi fwynhau’r holl gyffro cyn gêm ym Juno Moneta Mhentref y Cefnogwyr, cael cyfle i fod yn rhan o’r orymdaith o amgylch y cae, bod yn rhan o llwybr yr anrhydeddion a chroesawu’ch hoff chwaraewyr i’r cae!

GWYL

Mae gwyliau rygbi ar gyfer timau ieuenctid yn cael eu cynnal ar gae hyfforddi Parc y Scarlets ac mae’r gweithgareddau wedi dod yn rhan annatod o’n diwrnod gêm. Mae cannoedd o blant ifanc yn heidio i’r cae yng nghysgod Parc y Scarlets gan fwynhau gemau rygbi eu hunain cyn gwylio’r Scarlets. I dderbyn gwybodaeth pellach am y gwyliau cysylltwch trwy ebostio [email protected]

PENTREF CEFNOGWYR Y SCARLETS

Ar ddiwrnod giem mae Ysgubor Dan Do y Scarlets yn trawsnewid i fod yn Juno Moneta Bentref y Cefnogwyr. Gyda lle i 2000, mae’r lleoliad yn cynnig awyrgylch arbennig i gefnogwyr y Scarlets a’r gwrthwynebwyr. Mae ein cefnogwyr ifanc yn cael cyfle i gyfarfod rhai o chwaraewyr y Scarlets ac mae yna weithgareddau yn y Pentref i blant bach. Fe ddewch chi o hyd i fariau bwyd a diod, teledu enfawr, paentio wynebau am ddim a llawer mwy yn y Pentref.

BAR GUINNESS PRO14

Mae Bar Guinness PRO14 wedi profi i fod yn boblogaidd iawn gyda’r cefnogwyr. Mae’r bar yn Stand y Dwyrain yn lwyfan arbennig i adloniant byw cyn gemau ac mae’n leoliad llawn cyffro ar ôl gemau. Gwnewch yn siwr o alw mewn cyn symud i’ch sedd!
GORYMDAITH CYN-GÊM & LLWYBR YR ANRHYDEDDION

Mae timau ieuenctid a grwpiau yn cael cyfle i fod yn rhan o brofiad unigryw diwrnod gêm y Scarlets gan ychwanegu i’r awyrgylch arbennig trwy fod yn rhan o’r orymdaith cyn gêm! Mae’r orymdaith yn digwydd o dan arweiniad Cochyn y Ddraig ac mae’n gyfle i chwaraewyr ifanc gerdded o amgylch y cae cyn gêm. Wrth i’r timau rhedeg i’r cae mae’r timau sy’n creu Llwybr yr Anrhydeddion i groesawu’ch hoff sêr o’r twnel. Am wybodaeth pellach ebostiwch [email protected]

CYN GÊM / RYGBI HANNER AMSER

Mae holl dimau ieuenctid ac ysgolion yn cael cymryd rhan mewn rygbi TAG ym Mhentref y Cefnogwyr cyn gemau’r Scarlets ar ein cae artiffisial yn yr ysgubor dan-do. Fe fydd timau ieuenctid wedyn yn cael cyfle i fod yn rhan o’r cyffro ar y cae yn ystod hanner tymor. Mae’r llefydd yn llenwi’n gyflym felly gwnewch yn siwr eich bod chi’n archebu’ch lle. Ebostiwch [email protected]