MANYLION TEITHIO

MANYLION TEITHIO

Mae’r stadiwm tua 5 milltir (10 munud mewn car) o’r M4. Mae gyda ni dros 1,300 o lefydd parcio o amgylch Parc y Scarlets. Am wybodaeth ychwanegol am barcio darllenwch isod.

Os ydych yn bwriadu defnyddio modd arall o deithio

TATA STEEL

Mae TATA Steel yn faes parcio ar gyfer dalwyr pas yn unig ac mae’n bosib prynu pas am £64.00 y tymor. I brynu pas, neu am wybodaeth pellach, cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01554 29 29 39. Mae hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau mawr Parc y Scarlets hefyd.

PARC Y SCARLETS

Mae gyda 26 lle anabl ym maes parcio Parc y Scarlets. Mae’r llefydd yma ar gael ar ddechrau pob tymor fesul cyntaf i’r felin i Ddalwyr Tocyn Tymor a dalwyr Bathodyn Glas. Mae gyda ni tri lle anabl ar gyfer diwrnodau gêm ar sail cyntaf i’r felin am £5 yr un. Fe fydd yn rhaid i chi ddangos prawf o’ch Bathodyn Glas. Mae gyda ni fan gollwng tu allan i Stand y De Castell Howell, fe allwch ddefnyddio hwn hyd at awr cyn y gic gyntaf. Cwsmeriaid â phas yn unig sy’n cael parcio o fewn tir y stadiwm ar ddiwrnod gêm.

Am wybodaeth pellach am barcio anabl, cysylltwch â [email protected] a fydd yn gallu’ch cynorthwyo.

MAES PARCIO B

Fe fydd Maes Parcio B ar agor i gwsmeriaid ar ddiwrnodau gêm y Scarlets. Mae dros 450 o lefydd parcio ar gael. Pris parcio ym Maes Parcio B yw £5 y cerbyd. Mae’r maes parcio ger tafarn y Sessile Oak ac mae’n bosib cael mynediad oddi ar y gylchfan.

Image

CAR

Wedi'i leoli tua 5 milltir (8km) 10 munud o'r M4 mewn car

Dros 1,300 o leoedd parcio ceir ar y safle / ger y stadiwm

Image

TRÊN

Yr orsaf reilffordd agosaf:
Gorsaf Reilffordd Llanelli
2.2 milltir (3.5km) i ffwrdd

Gwasanaeth tacsi's ar gael tu allan y stadiwm

Image

AWYREN

Meysydd Awyr agosaf;

Maes Awyr Caerdydd
53.7 milltir (86.4km) 1awr 15m i ffwrdd

Maes Awr Bryste
96.3 milltir (154.9km) 1awr 30m i ffwrdd

Image

CWCH

Porthladd agosaf;

Doc Penfro
53.8 milltir (154.9km) 1 awr 10m i ffwrdd

PARCIO A THEITHIO;

Mae’r Scarlets yn gweithredu 3 maes parcio a theithio ar ddiwrnodau gemau mwy ofaint i wneud eich siwrne i’r stadiwm mor hawdd a phosib. Nodwch y lleoliadau isod:

1. Schaeffler

2. Technium

3. Festival Fields

Pris y gwasanaeth parcio a theithio yw £5 y cerbyd a does dim angen i chi archebu o flaen llaw.

Dyma amserlen y gwasanaeth parcio a theithio:

AMSERAU TRENAU A CHWMNIAU TACSIS

Gan bod amserau ein gemau yn newid o wythnos i wythnos mae’n bwysig eich bod chi’n gwirio manylion teithio cyn dechrau eich taith i unrhyw gêm. Am y wybodaeth diweddaraf am drenau ewch i www.nationalrail.co.uk

Tra ei fod yn bosib i chi gerdded o’r orsaf drenau (mae’n cymryd tua 40 munud) fe fydden ni’n eich hargymell i wneud defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus neu ein bws gwennol er mwyn lleihau amser eich taith i Barc y Scarlets. Am amserlen y bysiau lleol ewch i https://www.firstgroup.com/south-west-wales.

Os oes well gyda chi ddefnyddio tacsi ry’n ni’n defnyddio cwmni Eddie’s Cabs (01554 777222). Nodwch ei fod yn debygol y bydd y cwmni’n brysur ar ddiwrnod gêm felly mae’n bwysig i chi archebu o flaen llawn pan fo hynny’n bosib.

GWASANAETH BWS GWENNOL

Ry’n ni’n rhedeg bws gwennol ar ddiwrnod gêm o leoliadau yng nghanol tref Llanelli. Ar hyn o bryd mae’r bws yn casglu gyferbyn â Home Bargains (Heol yr Orsaf) a Dominos/Aldi. Mae’r daith yn cymryd tua hanner awr yn ddibynnol ar draffig. Gan bod amserau’r gemau’n newid nodwch yr amserau penodol yma am yr amserlen diweddaraf

Dim parcio mewn ardaloedd preswyl

Hoffwn atgoffa ein cwsmeriaid, os yn teithio mewn car, i beidio a pharcio mewn ardaloedd preswyl o amgylch y stadiwm. Gofynnwn hefyd i chi beidio a pharcio ar lawntydd oherwydd mae hyn yn achosi difrod ac yn atal cerbydau argyfwng. Mae’n bosib y bydd ceir sydd wedi parcio’n anghyfreithlon yn cael eu clampio.

Beiciau

Tra’n bod ni’n annog ffordd iach o fyw, nifer cyfyng o lefydd ar gyfer beic sydd yna ym Mharc y Scarlets. Mae’n bosib dod o hyd iddynt ar wal Stand y De Castell Howell ger y dderbynfa. Nid yw’n bosib archebu o flaen llaw.

Bysiau

Os ydych yn teithio fel grwp ar fws cysylltwch â’r adran gymunedol wrth ebostio [email protected]. Mae bysiau yn cael parcio yn rhad ac am ddim.