Mae holl gemau grwpiau Cwpan Pencampwyr Heineken yn 2018-19 wedi eu cadarnhau gan EPCR.
Yn dilyn tymor arbennig yn y gystadleuaeth y tymor diwethaf, gan gyrraedd y rownd cyn derfynol yn erbyn Leinster yn Stadiwm Aviva, Dulyn, fe fydd y Scarlets yn dechrau’r ymgyrch newydd ym Mharc y Scarlets yn erbyn y Ffrancwyr Racing 92.
Fe fydd y Scarlets yn teithio i Stadiwm Welford Road yn yr ail rownd i wynebu’r cyn wrthwynebwyr Ewropeaidd Caerlyr.
Ulster bydd y gwrthwynebwyr yn y gemau cefn-wrth-gefn cyn y Nadolig, gan ddechrau ym Mharc y Scarlets ar gyfer rownd 3 cyn teithio i Stadiwm Kingspan yn Rownd 4.
Gemau Cwpan Pencampwyr Heineken 2018-19:
Rownd 1: Sadwrn 13eg Hydref, CG 17:30 v Racing 92 ym Mharc y Scarlets
Rownd 2: Gwener 19eg Hydref, CG 19:45 v Leicester Tigers yn Stadiwm Welford Road
Rownd 3: Gwener 7fed Rhagfyr, CG 19:45 v Ulster ym Mharc y Scarlets
Rownd 4: Gwener 14eg Rhagfyr, CG 19:45 v Ulster yn Stadiwm Kingspan
Rownd 5: Sadwrn 12fed Ionawr, CG 17:30 v Leicester Tigers ym Mharc y Scarlets
Rownd 6: Sadwrn 19eg Ionawr, CG 16:15 v Racing 92 yn Arnea Paris La Defense
Fe fydd tocynnau ar gyfer gemau cartref y Scarlets ar gael i’w prynu wythnos nesaf. Cadwch lygad ar y wefan a’r cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth pellach.