Dau o chwaraewyr ifanc a thalentog rheng flaen y Scarlets Josh Morse ac Isaac Young yw’r diweeddaraf i arwyddo cytundebau newydd gyda’r clwb.
Y ddau yn aelod o Academi Hyn y Scarlets, bydd y pâr yn anelu i wthio ymlaen y tymor hwn ar ôl delio ag anafiadau yn ystod yr ymgyrch llynedd.
Roedd y prop pen rhydd Morse a’r bachwr Young yn aelodau o garfan D20 Cymru yn ystod Pencampwriaeth y Byd yn Ne Affrica llynedd.
Wedi datblygu gyda Chlwb Rygbi Llanymddyfri, mae gan Morse, 20, enw da am ei sgrymio a chario, ond wedi colli mas ar chwarae tymor diwethaf oherwydd anaf pen-glin.
Yn fachwr ymosodol, sefodd Young 21, allan yn ystod Pencampwriaeth y Byd ac yn barod wedi ymddangos wyth o weithiau i garfan hyn y Scarlets, yn cynnwys tri ymddangosiad oddi’r fainc yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig. Chwaraeodd i dîm Cwins Caerfyrddin yn ystod tymor Super Rygbi Cymru.
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae Josh ac Isaac yn chwaraewyr rheng flaen gyda llawer o botensial.”