Cytundeb newydd i Kemsley!

Rob LloydNewyddion

Prop rhyngwladol Cymru Kemsley Mathias yw’r chwaraewr diweddaraf i ymrwymo i’r Scarlets.

Mae’r prop pen tynn 25 oed o Sir Benfro wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd i aros ym Mharc y Scarlets am y tymhorau i ddod, yn dilyn Macs Page, Tomi Lewis, Joe Roberts, Eddie James a Taine Plumtree sydd hefyd yn ymestyn eu haros.

Un o dalentau rheng flaen ifanc cyffrous mwya’r wlad, chwaraeodd Kemsley i Glwb Rygbi Hwlffordd ac Arberth yn ei ieuenctid cyn datblygu trwy system y Scarlets. Roedd yn aelod o Academi’r clwb cyn derbyn ei gap cyntaf i Gymru D20.

Fe ymddangosodd am y tro cyntaf i garfan hyn y Scarlets yn erbyn y Dreigiau yn 2020 ac erbyn heddiw wedi ymddangos 60 o weithiau dros y pum tymor diwethaf, gan ennill y cyntaf o saith cap i Gymru yn ystod gêm ymarfer Cwpan Rygbi’r Byd 2023 yn erbyn Lloegr.

Dywedodd Kemsley: “Dwi wrth fy modd i arwyddo cytundeb newydd, dyma’r clwb dwi wedi cefnogi a gwylio wrth dyfu i fyny.

“Mae yna deimlad ein bod wedi datblygu ers tymor diwethaf, rydym yn targedu’r gemau olaf yma ac i ni wedi adeiladu carfan ifanc a da i symud ymlaen i mewn i’r tymor nesaf. Mae’n garfan gyffrous i fod yn rhan ohono.

Mae Kemsley ar hyn o bryd yn gwella o anaf i’w goes, ond yn gobeithio chwarae ei rhan yn y ‘Ras i’r Wyth Olaf’.

Ychwanegodd, “Gobeithio bydda i ar gael yn Ne Affrica a gallu chwarae fy rhan yn y push olaf.” “Trwy gydol y tymor i ni wedi dangos ein bod yn gallu rhoi canlyniadau mawr, fel ein gêm gartref yn erbyn y Bulls. Bydd hi’n wych os allwn ni gyrraedd y rowndiau nesaf.”

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae Kemsley yn un o’r chwaraewyr lleol sydd wedi datblygu yma ac wedi mynd ymlaen i gynrychioli Scarlets a Chymru.

“Mae’n chwaraewr ifanc gyda llawer o botensial, yn gryf yn y sgarmes a gallu mynd lan yn erbyn rhai o reng flaenwyr gorau’r byd yn ystod y tymhorau diwethaf.

“Yn anffodus mae Kems wedi derbyn cwpl o anafiadau, ond gobeithiwn i’w weld nôl cyn diwedd y tymor wrth i ni wthio ymlaen yn y gystadleuaeth.”