Dane Blacker yn dychwelyd i’r Scarlets!

Rob LloydFeatured

Bydd y mewnwr Dane Blacker yn dychwelyd i’r Scarlets o’r Dreigiau dros yr haf.

Chwaraeodd Dane 56 gêm dros pedair tymor rhwng 2019 a 2023 a profodd ei hun fel bygythiad yn yr ymosod yn ystod ei amser yng Ngorllewin Cymru, gan groesi am 15 cais a hefyd torri i mewn i garfan Cymru yn dilyn ei berfformiadau i’r Scarlets.

Mae’r chwaraewr 26 oed o Ynysybwl wedi gwario’r ddau tymor diwethaf yn Rodney Parade, gan ymddangos 33 o weithiau i’r clwb.

Dywedodd Dane: “Dwi’n edyrch ymlaen at ddychwelyd i’r Scarlets – clwb dwi wir wedi mwynhau cynrychioli.

“Mae’n wych i ddod nôl i amgylchedd sydd mor angerddol am rygbi, gyda chefnogwyr anhygoel sydd bob tro llawn egni. Braf yw cael bod yn rhan o dîm cyffrous gyda dyfodol disglair.”

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “I ni wrth ein bodd i gael Dane nôl gyda’r Scarlets – roedd yn siom fawr i’w weld yn gadael cwpl o flynyddoedd yn ôl. Dangosodd ei botensial, gan wthio’i hun i mewn i garfan Cymru a sgori ceisiau arbennig.

“Mi fydd yn ychwanegu at y grwp o fewnwyr yma gyda Gareth ac Archie a hefyd Rhodri sydd yn gwthio am gyfleoedd.”

Dane yw’r trydydd chwaraewr newydd rydym wedi cyhoeddi o flaen ymgyrch 2025-26, gyda’r chwaraewr rhyngwladol Joe Hawkins yn cyrraedd o Exeter Chiefs a Jake Ball yn dychwelyd am ei ail bennod yn y Gorllewin gwyllt.

Macs Page, Joe Roberts, Tomi Lewis, Eddie James, Taine Plumtree a Kemsley Mathias sydd hefyd wedi cytuno ar gytundebau newydd.