Dau newid i dîm y Scarlets ar gyfer Darbi Cwpan Her

Rob LloydNewyddion

Mae’r prif hyfforddwr Dwayne Peel wedi penderfynu ar ddau newid i’r XV i ddechrau yng ngêm Cwpan Her Ewrop dydd Sul yn erbyn y Gweilch yn Stadiwm Swansea.com (17:30; S4C).

Gwelir y ddau newid ymysg y blaenwyr, y bachwr rhyngwladol Ryan Elias sydd yn newid gyda Marnus van der Merwe gyda Jac Price yn dechrau fel clo yn lle Alex Craig.

Mae’r olwyr yn parhau yn ddi-newid yn dilyn y fuddugoliaeth pwynt bonws yn erbyn yr un gwrthwynebwyr ym Mharc y Scarlets penwythnos diwethaf yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Blair Murray, Macs Page ac Ellis Mee sydd yn cwblhau’r tri ôl, Joe Roberts ac Eddie James sydd eto yng nghanol cae, wrth i Ioan Lloyd a Gareth Davies parhau fel ein haneri.

Elias sydd yn cyfuno gydag Alec Hepburn a Henry Thomas yn y rheng flaen. Price sydd yn dod i mewn fel partner i Sam Lousi, gyda Vaea Fifita, Taine Plumtree a’r capten Josh Macleod sydd eto yn cydweithio yn y rheng ôl.

Ymysg yr eilyddion mae van der Merwe a Craig wedi’u henwi wrth ochr Sam O’Connor, Sam Wainwright, Jarrod Taylor, Dan Davis, Efan Jones ac Ioan Nicholas.

Dywedodd Dwayne Peel: “Rydyn ni’n ymwybodol o’r her ar y penwythnos. Mae’n fy atgoffa o’r dyddiau Cwpan Heineken gyda’r gemau dwbl mis Rhagfyr. Mae’r momentwm yn bwysig ac a rhaid i ni gario’r chwedeg munud o’r gêm ddiwethaf i mewn i’r gêm hwn. Bydd y Gweilch yn barod amdanom, rhaid i ni sicrhau ein bod yn cario’r emosiwn i mewn i’r gêm a’i ddefnyddio yn ein chwarae.”

Tîm y Scarlets i chwarae’r Gweilch yn Stadiwm Swansea.com ar ddydd Sul, Ebrill 6 (5.30yp; S4C)

15 Blair Murray; 14 Macs Page 13 Joe Roberts, 12 Eddie James, 11 Ellis Mee; 10 Ioan Lloyd, 9 Gareth Davies; 1 Alec Hepburn, 2 Ryan Elias, 3 Henry Thomas, 4 Jac Price, 5 Sam Lousi, 6 Vaea Fifita, 7 Josh Macleod (capt), 8 Taine Plumtree.

Eilyddion: 16 Marnus van der Merwe, 17 Sam O’Connor, 18 Sam Wainwright, 19 Alex Craig, 20 Jarrod Taylor, 21 Efan Jones, 22 Ioan Nicholas, 23 Dan Davis

Ddim ar gael oherwydd anaf/salwch

Kemsley Mathias, Johnny Williams, Tom Rogers, Max Douglas, Sam Costelow, Ben Williams, Archer Holz, Harri O’Connor, Josh Morse, Isaac Young