Dau newid i’r Scarlets i wynebu’r Siarcod

Rob LloydNewyddion

Y canolwr rhyngwladol Joe Roberts fydd yn gwneud ei 50fed ymddangosiad i’r Scarlets ar ddydd Sadwrn wrth i’r tîm herio’r Hollywoodbets Sharks yn Durban (18:30 Amser DU).

Bydd Roberts yn cymryd ei le ymysg tîm sydd yn dangos ond dau newid o’r fuddugoliaeth pwynt bonws penwythnos diwethaf yn erbyn y Lions yn Johannesburg.

Gyda Gareth Davies wedi hedfan adre’ oherwydd anaf i’w asennau, Archie Hughes sydd i ddechrau yng nghrys rhif naw.

Does dim newid i weddill yr olwyr. Blair Murray, Tom Rogers ac Ellis Mee sydd yn parhau yn y tri o1l; Roberts a Johnny Williams yng nghanol cae a Costelow yn dechrau fel maswr.

Yr unig newid ymysg y blaenwyr yw safle’r bachwr gyda Ryan Elias yn cyfnewid gyda Marnus van der Merwe, sydd wedi’i enwi yng ngwersyll 54 dyn y Springboks.

Yn ymuno Elias yn y rheng flaen mae Alec Hepburn a Henry Thomas; Alex Craig a Sam Lousi sy’n cyfuno yn yr ail reng a Vaea Fifita, Taine Plumtree a’r capten Josh Macleod yn y rheng ôl.

Efan Jones sydd ar y fainc ar gyfer safle’r mewnwr.

Wrth fynd i mewn i’r gêm olaf o’r tymor arferol, mae’r Scarlets yn eistedd yn y chweched safle o dabl y Bencampwriaeth Rygbi Unedig a fydd yn aros am ganlyniadau nos Wener i wybod eu sefyllfa cyn y gic gyntaf.

Dywedodd y prif hyfforddwr Dwayne Peel: “Fe all sawl peth ddigwydd cyn ein gêm ni, ond beth sy’n bwysig i ni gofio yw bod ein tynged ein hunain yn ein dwylo ni. Mae’r Sharks wedi chwarae’n dda, ac yn dîm llawn talent ryngwladol felly mi fydd cael beth sydd angen arnom yn ymdrech mawr.

“Yr her i ni fydd i gyrraedd eu lefel nhw yn gorfforol. Dyna’r ateb. Ond er i ni wybod safon eu tîm nhw, mae’n rhaid i ni gofio am ein hunain, rydym yn hyderus yn ein steil o chwarae a gallu cynhyrchu’r un perfformiad ag wythnos diwethaf. Rydym yn paratoi fel yr arfer, rydym am gael y canlyniad sydd angen, ac rydym am gadw’r momentwm sydd wedi bod yn adeiladu dros y pedair buddugoliaeth ddiwethaf.”

Tîm y Scarlets i chwarae’r Hollywoodbets Sharks yn Hollywoodbets Kings Parks ar ddydd Sadwrn, Mai 17 (6.30yh Amser DU; S4C, Premier Sports)

15 Blair Murray; 14 Tom Rogers, 13 Joe Roberts, 12 Johnny Williams, 11 Ellis Mee; 10 Sam Costelow, 9 Arhie Hughes; 1 Alec Hepburn, 2 Ryan Elias, 3 Henry Thomas, 4 Alex Craig, 5 Sam Lousi, 6 Vaea Fifita, 7 Josh Macleod (capt), 8 Taine Plumtree.

Eilyddion: 16 Marnus van der Merwe, 17 Kemsley Mathias, 18 Sam Wainwright, 19 Dan Davis, 20 Jarrod Taylor, 21 Efan Jones, 22 Ioan Lloyd, 23 Macs Page.

Ddim ar gael oherwydd sawlch/anaf

Gareth Davies, Max Douglas, Ben Williams, Archer Holz, Harri O’Connor, Sam O’Connor, Josh Morse, Isaac Young.