Chwaraewyr rhyngwladol Cymru Sam Costelow a Johnny Williams sy’n dychwelyd i XV y Scarlets ar gyfer rownd 16 o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn erbyn Leinster (17:15; S4C & Premier Sports).
Mae Costelow wedi gwella o anaf i’w ysgwydd a gafwyd yn ystod gêm mis Ionawr yn erbyn Caerloyw, wrth i Williams eistedd allan o’r tair gêm ddiwethaf oherwydd anaf i’w goes.
Y newidiadau eraill i’r tîm a gurodd y Dreigiau yn y fuddugoliaeth pwynt bonws ar ddydd y farn yw Joe Roberts sy’n cymryd safle Macs Page yng nghanol cae a Ryan Elias sy’n cyfnewid gyda Marnus van der Merwe fel bachwr.
Tri ôl rhyngwladol o Blair Murray, Tom Rogers ac Ellis Mee sy’n parhau gyda Roberts a Williams yn cyfuno fel ein canolwyr. Costelow sy’n cydweithio gyda Gareth Davies fel ein haneri.
Elias sydd yn y rheng flaen yng nghanol Alec Hepburn a Henry Thomas, gyda Alex Craig a Sam Lousi yn yr ail reng, Vaea Fifita, Taine Plumtree a’r capten Josh Macleod yn y rheng ôl.
Page, Roberts, Ioan Lloyd a van der Merwe sydd ar y fainc.
Dywedodd y prif hyfforddwr Dwayne Peel: “Mae’n wythnos fawr, yn achlysur mawr, a’r gêm gartref olaf o’r tymor yn erbyn un o dimau gorau’r byd. Mae’n her enfawr, ac yn gyfle sydd wedi cyffroi bob un ohonom, yn enwedig gydag ond tair gêm ar ôl a’r safleoedd yn y tabl yn dynn iawn.
“Mae llawer o rygbi i’w chwarae o hyd a bydden i ddim yn synnu os oedd y safleoedd yna ddim yn gadarn nes yr wythnos olaf.
“Bydd ein cywirdeb yn mor bwysig i ni i beidio â’u gadael nhw i ffeindio’u traed yn y gêm. Mae rhaid i ni fod yn ddewr ac yn fentrus.”
Tîm y Scarlets i chwarae Leinster ym Mharc y Scarlets ar Ddydd Sadwrn, Ebrill 26 (5.15pm; S4C, Premier Sports)
15 Blair Murray; 14 Tom Rogers, 13 Joe Roberts, 12 Johnny Williams, 11 Ellis Mee; 10 Sam Costelow, 9 Gareth Davies; 1 Alec Hepburn, 2 Ryan Elias, 3 Henry Thomas, 4 Alex Craig, 5 Sam Lousi, 6 Vaea Fifita, 7 Josh Macleod (capt), 8 Taine Plumtree.
Eilyddion: 16 Marnus van der Merwe, 17 Louie Trevett, 18 Sam Wainwright, 19 Jac Price, 20 Jarrod Taylor, 21 Archie Hughes, 22 Ioan Lloyd, 23 Macs Page.
Ddim ar gael oherwydd anaf/salwch
Kemsley Mathias, Max Douglas, Ben Williams, Archer Holz, Harri O’Connor, Josh Morse, Isaac Young.