Does dim newid i dîm Dwayne Peel ar gyfer gêm rownd yr wyth olaf yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ar ddydd Sadwrn yn erbyn Leinster yn Nulyn (3yp; BBC Wales & Premier Sports).
Bydd y Scarlets yn cymryd i’r cae gyda’r un garfan a heriodd y Sharks yn Durban ac yn chwilio i darfu ar gynlluniau Leinster sydd ar frig y tabl yn Stadiwm Aviva.
Mae Blair Murray ac Ellis Mee – sydd yr wythnos hon wedi’u henwebu gyda Macs Page am wobr Chwaraewr y Dyfodol URC – yn ymuno â Tom Rogers ymysg y tri ôl.
Joe Roberts a Johnny Williams sydd yn parhau yng nghanol cae am y bedwaredd gêm yn olynol, wrth i Sam Costelow cydweithio â Archie Hughes, sydd wedi creu argraff da yn safle\r mewnwr yn absenoldeb Gareth Davies.
Yn 28 oed, Williams yw’r chwaraewr hynaf o fewn grwp o olwyr Cymraeg cyffrous.
Yn y rheng flaen, Ryan Elias sydd yn cychwyn fel bachwr, gan weithio gyda\r ddau prop profiadol Alec Hepburn a Henry Thomas.
Alex Craig a Sam Lousi sydd yn bartneriaid yn yr ail reng, wrth i’r rheng ôl weld cyfuniad o Vaea Fifita, Taine Plumtree a’r capten Josh Macleod.
Ar y fainc mae Kemsley Mathias, Marnus van der Merwe, Sam Wainwright, Dan Davis a Jarrod Taylor i’r blaenwyr, gyda Efan Jones, Ioan Lloyd a Macs Page ar gael i’r olwyr.
Dyma fydd 50fed ymddangosiad Wainwright i’r Scarlets os yn dod oddi’r fainc.
Dywedodd y prif hyfforddwr Dwayne Peel: “I ni wedi gweithio’n galed i gyrraedd yr wyth olaf, rhaid i ni gwneud y mwyaf ohoni nawr.
“Mynd i Ddulyn yw un o’r heriau mwyaf gallwch wynebu yn rygbi, ond i ni’n edrych ymlaen. Byddwn yn camu at y gêm yn hyderus, ac yn hyderus yn ein gallu ac yn ymwybodol bydd rhaid i ni fod ar ein gorau.
“Mi fydd hi’n achlysur arbennig, yn brofiad newyd i sawl un o’r bois ifanc – bydd rhaid i ni fod yn ddewr, ac yn gywir yn ein chwarae trwy roi ein marc ein hun ar y gêm, a chwarae ffordd y Scarlets.”
Tîm y Scarlets i chwarae Leinster yn Stadiwm Aviva ar ddydd Sadwrn, Mai 31 (3.00yp; BBC Wales, Premier Sports)
15 Blair Murray; 14 Tom Rogers, 13 Joe Roberts, 12 Johnny Williams, 11 Ellis Mee; 10 Sam Costelow, 9 Arhie Hughes; 1 Alec Hepburn, 2 Ryan Elias, 3 Henry Thomas, 4 Alex Craig, 5 Sam Lousi, 6 Vaea Fifita, 7 Josh Macleod (capt), 8 Taine Plumtree.
Eilyddion: 16 Marnus van der Merwe, 17 Kemsley Mathias, 18 Sam Wainwright, 19 Dan Davis, 20 Jarrod Taylor, 21 Efan Jones, 22 Ioan Lloyd, 23 Macs Page.
Ddim ar gael oherwydd anaf/salwch
Gareth Davies, Max Douglas, Ben Williams, Archer Holz, Harri O’Connor, Sam O’Connor, Josh Morse, Isaac Young.