Gŵyl rygbi Sefydliad Gymunedol y Scarlets

Rob LloydNewyddion, Newyddion Cymuned

Fe fydd Parc y Scarlets yn llwyfannu diwrnod cymunedol i groessawu tymor 2025-26, gan ddechrau gyda gŵyl rygbi i dimau dan 7 i dan 11 ar gae hyfforddi’r stadiwm.

Mae tymor Pencampwriaeth Rygbi Unedig BKT y Scarlets yn cychwyn ddydd Sadwrn 27ain Medi, gyda Munster yn teithio i Barc y Scarlets, cic gyntaf 17:30.

Fe fydd wyth tîm ym mhob gradd oed yn cymryd rhan yn yr ŵyl, cyn mwynhau’r hyn sydd gan Bentref y Cefnogwyr i’w gynnig.

Mae Arena FSG yn trawsnewid mewn i hwb llawn cyffro ar gyfer y gymuned gyfan ar ddiwrnod gêm, gan gynnig gweithgareddau amrwyiol, cerddoriaeth, cyfle i gyfarfod chwaraewyr a llawer mwy.

Dewch i fwynhau diwrnod arbennig i’r teulu oll.

I gofrestru eich tîm, a derbyn ffurflen archebu, ebostiwch [email protected] gyda’ch manylion cyswllt, clwb ac oed eich tîm*.

*Fe fydd yr ŵyl yn dilyn llwybr cyfreithiol chwarae URC. Mae disgwyl i chi brynu oleiaf deg tocyn oedolyn gyda phob tîm sy’n cofrestru ar gyfer yr ŵyl.