Ioan Nicholas yn arwyddo cytundeb newydd

Rob LloydNewyddion

Wrth i’r Scarlets barhau gyda pharatoadau tymor 2025-26, mae’r olwr amryddawn Ioan Nicholas yn ymestyn ei aros gyda’r clwb gyda chytundeb newydd.

Ar un adeg Nicholas oedd y chwaraewr ifancaf erioed i gynrychioli’r Scarlets pan ymddangosodd yn erbyn Jersey Reds yn Undeg saith mlwydd oed, ac wedi nawr troi’n 27 ym mis Ebrill, mae’n nawr yn cael ei adnabod fel un o chwaraewyr hŷn carfan Dwayne Peel.

Tymor diwethaf, fe ymunodd â Chlwb Cant y Scarlets, gan gyrraedd 100 o ymddangosiadau yn ystod gêm yn erbyn Aviron Bayonnais. Erbyn hyn mae ganddo 110 o ymddangosiadau i’w enw.

Cafodd Nicholas ei enwi’n Chwaraewr y Cefnogwyr yn nhymor 2023-24 ac fe serenodd yn ystod y tymor ddiwethaf gan chwarae mewn 16 o gemau, a chroesi am bedair cais.

Yn gallu chwarae fel cefnwr, canolwr neu ar yr asgell, mae Ioan wedi datblygu i fod yn chwaraewr craidd ymysg yr olwyr.

Wrth ddal lan gyda Ioan yn ystod ymarferion yr haf, fe ddywedodd: “Mae’n braf i fod nôl ar ôl ychydig o amser bant. I ni newydd orffen yr wythnosau cyntaf o ymarferion ac mae wedi profi’n heriol, yn enwedig gyda’r tywydd twym.

“Mae llawer o wynebau newydd, o’r academi ac o glybiau eraill – mae’n newid da ac mae pawb yn edrych ymlaen at yr wythnosau nesaf.”

Wrth ofyn am ei statws fel chwaraewr hŷn y garfan, dywedodd: Dwi dal i deimlo fel un o’r chwaraewyr ifanc, ond er hynny dwi wedi bod yma tua 10 mlynedd erbyn nawr!

“Dwi dal i fwynhau chwarae yma ac yn edrych ymlaen at adeiladu ar yr hyn wnaethom ni gyflawni tymor diwethaf, gorffen yn yr wyth uchaf o’r URC a chwarae yng Nghwpan Pencampwyr tymor nesaf.

“Mae gemau enfawri edrych ymlaen at chwarae – Munster i gychwyn y tymor a wedyn chwarae timau fel Bristol a Bordeaux yng Nghwpan Pencampwyr, mae’n gyffrous iawn i ni ac i’r cefnogwyr.”

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Iowz yw curiad calon y garfan, yn rhywun sydd yn cyfrannu’n fawr ar ac oddi ar y cae, yn ei berfformiad ac yn ein diwylliant fel clwb.

“Gallwch ddibynu arno i berfformio’n gyson ar lefel uchel wythnos ar ôl wythnos.

“Yn amlwg mae’r clwb yn golygu llawer iddo, gallwch weld hynny pan aeth ymlaen i wneud ei 100fed ymddangosiad tymor diwethaf. Mae’n chwaraewr sydd yn gallu rhannu barn ac yn boblogaidd gyda’r grwp. Mae’n wych i weld chwaraewr lleol arall yn aros gyda’r clwb.”

Mae Ioan yn ymuno â Macs Page, Tomi Lewis, Eddie James, Joe Roberts, Sam Costelow, Kemsley Mathias, Taine Plumtree, Johnny Williams a Sam O’Connor wrth arwyddo cytundebau newydd.

Mae’r Scarlets hefyd wedi arwyddo chwaraewyr rhyngwladol Jake Ball a Joe Hawkins, y mewnwr Dane Blacker, chwaraewr rheng ôl Tristan Davies a’r chwaraewr D20 Lloegr Ioan Jones o flaen ymgyrch 2025-26.