Jake Ball i ddychwelyd i’r Scarlets!

Rob LloydNewyddion

Un o gyn sêr y Scarlets Jake Ball fydd yn dychwelyd i’r Scarlets tymor nesaf, mae’r clwb yn hapus iawn i gyhoeddi.

Treuliodd y chwaraewr rhyngwladol naw mlynedd yng Ngorllewin Cymru a nawr yn paratoi i i wisgo crys y Scarlets eto.

Fe ymddangosodd y chwaraewr ail reng 33 oed 133 o weithiau i’r Scarlets rhwng 2012 a 2021 ac roedd yn aelod o’r garfan a enillodd y teitl Guinness PRO12 yn 2017 a chyrraedd y rownd gynderfynol o Gwpan Pencampwyr Ewrop y flwyddyn ganlynol.

Ffarweliodd Jake a’r Scarlets yn 2021 cyn dychwelyd iddo’i deulu yn Awstralia ac wedyn arwyddo cytundeb gyda’r NEC Green Rockets yn Japan, lle treuliodd tri thymor yn chwarae.

Penderfynodd ar ddiwedd y tymor diwethaf i ymddeol o rygbi, ond ers hynny wedi ailgydio yn ei yrfa am ddychweliad i Lanelli.

“Dwi methu aros i ddechrau eto,” dywedodd Jake.

“Gadawais i’r Scsrlets yn ystod amser Covid a ges i ddim y cyfle i ddweud ffarwel fel y byddwn wedi eisiau. Ers i mi orffen yn Japan a chyhoeddi fy ymddeoliad o rygbi, dwi’n teimlo fel bod y bennod heb ei orffen.

“Pan glywais i fod y Scarlets yn chwilio am chwaraewr ail reng newydd, siaradais â Peely a Cubby ac fe esbonion nhw amdano beth sy’n adeiladu yn y garfan, y dalent ifanc newydd sy’n datblygu, yr amgylchedd a’r targedau yna a dwi am fod yn rhan o hynny.

“Dwi’n hiraethu am chwarae, dwi wedi colli’r agwedd o broffesiynoldeb yn y gêm. Yn amlwg, i ni fel teulu yn nabod y Scarlets yn dda, yn nabod yr ardal ac i ni wedi mwynhau ein hamser yna.

“Dwi’n edrych ymlaen at yr her o chwarae rygbi proffesiynol eto, yr ymarferion, y diwrnodau gêm – dwi wedi colli nhw’n fawr.

“Gobeithio fe allai rhannu fy mhrofiadau gyda’r chwaraewyr ifanc yn y garfan a hefyd dysgu wrthyn nhw.

“Mae’r Scarlets yn glwb arbennig, a wnaeth rhoi cyfle i mi pan ddes i draw yn gyntaf, roedd ganddyn nhw’r ffydd yn fy mhotensial ac mae hynny wedi golygu cymaint i fi.

“Yn gorfforol, dwi mewn lle gwell na’ pryd wnes i adael ac mae’r angerdd yna i chwarae ar y lefel uchaf yn gryf.”

Dywedodd y prif hyfforddwr Dwayne Peel: “Rydyn ni wrth ein bodd i groesawu Jake nôl i’r Scarlets.

“Roedd yn aelod poblogaidd o’r clwb ac yn ffefryn ymysg y cefnogwyr, rhywun sydd wedi chwarae mwy na’ chanrif o gemau i’r Scarlets a chwaraeodd rhan enfawr yn y tymor i ennill y teitl.

“Rydym i gyd yn ymwybodol o’i dalentau fel chwaraewr ac arweinydd. Mae ei broffesiynoldeb a chyfradd gwaith yn esiampl i’r chwaraewyr ifanc sydd yma yn datblygu.

“O’r sgyrsiau dwi wedi cael gyda Jake, mae’n amlwg ei fod yn teimlo bod mwy ganddo i’w gynnig. Ers dychwelyd o Japan, mae wedi cadw ffitrwydd arbennig ac i ni’n edrych ymlaen i’w weld nôl yma am ymarferion yr haf.”

Bydd Jake yn ymuno â’r garfan yn yr haf ac yw’r ail chwaraewr newydd yn ein hymuno am ymgyrch 2025-26, yn dilyn cyhoeddiad Joe Hawkins sydd yn ymuno o Exeter Chiefs.