Josh Macleod fydd yn gapten ar y Scarlets am ymgyrch 2025-26 – ei drydydd tymor yn olynol wrth y llyw.
Cafodd Macleod ei apwyntio yn swyddogol fel capten y clwb yn 2023 ar ôl camu i mewn yn lle Jonathan Davies oedd wedi’i anafu ar y pryd, i arwain yr ochr yn ystod rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Her Ewrop.
Yn chwaraewr sydd yn gyrru’r safon ar ac oddi ar y cae, roedd ei berfformiad rhagorol yn ystod y tymor diwethaf wedi’i weld yn cael ei ail alw i mewn i garfan Cymru, lle derbyniodd ei gap cyntaf ar y daith i Japan.
Wedi’i eni yn Monte Carlo, ond yn falch o’i wreiddiau yn Sir Benfro, chwaraeodd Josh ei rygbi iau gyda Chlwb Rygbi Crymych cyn disgleirio i dimau gradd oedran a’r Academi.
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i’r garfan hŷn deg mlynedd yn ôl ac roedd yn rhan o’r garfan a wnaeth godi’r teitl PRO12 yn 2016-17. Nawr yn 28, mae Josh wedi ymddangos 136 o weithiau i’r Scarlets, gan groesi am 14 cais.
Dywedodd Josh: “Mae’n anrhydedd enfawr i fod yn dilyn rhai o fawrion y Scarlets sydd wedi bod yn gapteiniaid ar y clwb ac mae’n fraint i gael fy ngofyn i barhau yn y rôl am y tymor i ddod.
“I ni wedi datblygu’n fawr fel carfan dros y tymor diwethaf, gan gyrraedd rowndiau olaf y bencampwriaeth a llwyddo i fod yn gymwys am Gwpan Pencampwyr eleni. Ein targed oedd cystadlu ym mhob gêm ac fe wnaethom ni hynny.
“Mae’r nod ar gyfer yr ymgyrch i ddod wedi bod yn glir – i ni am barhau gyda’r momentwm yna a chadw adeiladu. Roedd cyrraedd rownd yr wyth olaf yn wych ac i ni am brofi hynny eto.
“Fel capten, dwi’n ffodus iawn i gael grŵp o chwaraewyr profiadol yn y garfan sydd yn parhau i wthio’r safon ar y cae ac oddi arno, ac mae grŵp o chwaraewyr ifanc yma hefyd sydd yn awyddus i ddysgu a datblygu.
“Mae’r bois eisiau chwarae, eisiau diddanu a rhoi yn ôl i’n cefnogwyr, nhw sy’n dilyn ni ar draws Ewrop.
“Mae’n ddechreuad enfawr i ni ar ddydd Sadwrn yn erbyn Munster. I ni wedi gweithio’n galed fel carfan dros yr haf ac yn barod i fynd. Mi fydd hi’n anrhydedd eto i arwain y bois allan, gan obeithio bydd yna dorf arbennig yma yn ein cefnogi yn y Parc.”
Dywedodd y prif hyfforddwr Dwayne Peel: “Mae Josh yn cynrychioli’r gwerthoedd rydyn ni’n eu cynrychioli yma yn y Scarlets. Mae’n chwaraewr sy’n arwain drwy esiampl ac mae hynny’n amlwg yn y dwyster a’r ymrwymiad mae’n ei rhoi ym mhob gêm.
“Mae’n berson sydd wastad eisiau gwella, sydd yn disgwyl y safon gorau o’i hun a’r bobl o’i amgylch.
“Mae Josh wedi bod yn rhan o’r clwb am gyfnod hir nawr, wedi datblygu trwy’r Academi yma. Mae wedi tyfu i fyny yn deall diwylliant y Scarlets, beth mae’n golygu i wisgo crys y Scarlets a beth i ni’n eu cynrychioli.
