Capten y Scarlets Josh Macleod i ymddangos yng nghrys Cymru am y tro cyntaf ers tair mlynedd ar ôl cael ei ddewis fel blaenasgellwr am y Prawf cyntaf yn erbyn Japan yn Stadiwm Mikuni, Kitakyushu ar ddydd Sadwrn (CG 06.00h BST, yn fyw ar BBC Cymru).
Ymddangosodd Macleod, sydd wedi serennu i’r Scarlets yn ystod ymgyrch 2024-25, y tro diwethaf i’w wlad yn ystod Cyfres yr Hydref yn 2022.
Wedi’u henwi fel un o’r chwe Scarlet yn rhan o dîm ddydd Sadwrn gyda Blair Murray, Tom Rogers, Sam Costelow a Johnny Williams hefyd yn y XV i ddechrau a Joe Roberts ar y fainc.
I Williams, mae hefyd yn ddychweliad haeddiannol i rygbi rhyngwladol, wrth iddo ymddangos ddiwethaf yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd yn 2023. Mae Johnny wedi’i ddewis i ddechrau yng nghanol cae gyda Ben Thomas.
Mae Costelow nôl yn y tîm i ddechrau, wedi colli mas ar bencampwriaeth y Chwe Gwlad 2025 yn dilyn anaf i’w ysgwydd.
Ar ddychweliad Macleod dywedodd y prif hyfforddwr Matt Sherratt: “fe wnaethom trafod yn y cyfarfod tîm cyntaf am y nifer o chwaraewyr sydd wedi gweithio eu ffordd nôl i mewn i’r garfan.
“Mae Josh Macleod yn un amlwg. Un sydd wedi’i herio gydag anafiadau, wedi profi amser anodd dros y tair neu pedair mlynedd ddiwethaf, felly mae’n braf i’w weld yn ôl.
Tîm Cymru v Japan – 1st Prawf | Tîm Cymru v Japan
15. Blair Murray (Scarlets – 8 caps); 14. Tom Rogers (Scarlets – 9 caps), 13. Johnny Williams (Scarlets – 7 caps), 12. Ben Thomas (Cardiff Rugby | Caerdydd – 12 caps), 11. Josh Adams (Cardiff Rugby | Caerdydd – 61 caps); 10. Sam Costelow (Scarlets – 18 caps), 9. Kieran Hardy (Ospreys | Gweilch – 23 caps); 1. Nicky Smith (Leicester Tigers | Caerlŷr – 54 caps), 2. Dewi Lake (Ospreys | Gweilch – 20 caps) – captain | capten, 3. Keiron Assiratti (Cardiff Rugby | Caerdydd – 14 caps), 4. Ben Carter (Dragons | Dreigiau – 12 caps), 5. Teddy Williams (Cardiff Rugby | Caerdydd – 6 caps), 6. Alex Mann (Cardiff Rugby | Caerdydd – 5 caps), 7. Josh Macleod (Scarlets – 2 caps), 8. Taulupe Faletau (Cardiff Rugby | Caerdydd – 108 caps)
Eilyddion: 16. Liam Belcher (Cardiff Rugby | Caerdydd – uncapped | heb gap), 17. Gareth Thomas (Ospreys | Gweilch – 40 caps), 18. Archie Griffin (Bath Rugby| Caerfaddon – 6 caps), 19. James Ratti (Ospreys | Gweilch – 1 cap), 20. Aaron Wainwright (Dragons | Dreigiau – 57 caps), 21. Tommy Reffell (Leicester Tigers / Caerlŷr – 27 caps), 22. Rhodri Williams (Dragons | Dreigiau – 9 caps), 23. Joe Roberts (Scarlets – 5 caps)