Mae gŵyl rygbi cyntaf Sefydliad Cymunedol y Scarlets yn nhymor 2025-26 bron yn llawn!
Fe fydd Parc y Scarlets yn llwyfannu diwrnod cymunedol i groesawu’r tymor newydd, gan ddechrau gyda gŵyl rygbi i dimau dan 7 i dan 11 ar gae hyfforddi’r stadiwm.
Mae tymor Pencampwriaeth Rygbi Unedig BKT y Scarlets yn cychwyn ddydd Sadwrn 27ain Medi, gyda Munster yn teithio i Barc y Scarlets, cic gyntaf 17:30.
Yn ogystal â’r ŵyl rygbi, fe fydd cyfle i dimau ieuenctid gymryd rhan cyn y gêm fel dalwyr banneri, ac yn yr orymdaith cyn y gêm.
Mae Arena FSG yn trawsnewid mewn i hwb llawn cyffro ar gyfer y gymuned gyfan ar ddiwrnod gêm, gan gynnig gweithgareddau amrwyiol, cerddoriaeth, cyfle i gyfarfod chwaraewyr a llawer mwy.
Dewch i fwynhau diwrnod arbennig i’r teulu oll.
I gofrestru eich tîm, a derbyn ffurflen archebu, ebostiwch [email protected] gyda’ch manylion cyswllt, clwb ac oed eich tîm.