Macleod i arwain y Scarlets yn erbyn y Dreigiau

Rob LloydNewyddion

Y chwaraewr rheng ôl ryngwladol Josh Macleod fydd yn arwain tîm pwerus y Scarlets i mewn i’r gêm gyfeillgar yn erbyn y Dreigiau yn Rodney Parade ar ddydd Sadwrn (3yp).

O flaen gêm agoriadol y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn erbyn Munster ar Fedi 27, mae’r prif hyfforddwr Dwayne Peel wedi enwi tîm cryf, gan gynnwys nifer o’r chwaraewyr aeth ar daith i Japan gyda charfan Cymru dros yr haf.

Yn cynnwys Macleod ei hun, mae Blair Murray, Macs Page, Sam Costelow, Taine Plumtree a Joe Roberts.

Hefyd mae’r chwaraewr ail reng Jake Ball yn dychwelyd yng nghrys y Scarlets ar ôl arwyddo i’r clwb yn yr haf.

Mae’r cefnwr Murray yn cyfuno gyda Jac Davies – yn dilyn perfformiad da i Lanymddyfri penwythnos diwethaf – ac Ellis Mee fel yr asgellwyr.

Mae Page wedi’i enwi’n bartner i Joe Hawkins yng nghanol cae, wrth i Costelow a Gareth Davies darparu partneriaeth gyfarwydd fel ein haneri.

Yn y rheng flaen mae Alec Hepburn, a wnaeth ychwanegu at ei gapiau rhyngwladol i’r Alban dros yr haf, yn ymuno â’r bachwr Harry Thomas a’r prop pen tynn Harri O’Connor.

Lousi sydd yn ymuno â Ball yn yr ail reng, wrth i Jarrod Taylor ymuno â Plumtree a Macleod yn y rheng ôl.

Wedi’u henwi ar y fainc mae’r chwaraewr rheng ôl 18 oed Osian Williams a’r Scarlet newydd, y cefnwr Ioan Jones.

Tîm y Scarlets i wynebu’r Dreigiau yn Rodney Parade ar Ddydd Sadwrn, Medi 13 (3yp)

15 Blair Murray; 14 Jac Davies, 13 Macs Page, 12 Joe Hawkins, 11 Ellis Mee; 10 Sam Costelow, 9 Gareth Davies; 1 Alec Hepburn, 2 Harry Thomas, 3 Harri O’Connor, 4 Sam Lousi, 5 Jake Ball, 6 Jarrod Taylor, 7 Josh Macleod (capt), 8 Taine Plumtree.

Eilyddion: Kemsley Mathias, Isaac Young, Gabe Hawley, Jac Price, Tristan Davies, Osian Williams, Dan Davis, Dane Blacker, Archie Hughes, Gabe McDonald, Joe Roberts, Ioan Nicholas, Tomi Lewis, Ioan Jones.