Mae Tomi nôl gyda chytundeb newydd

Rob LloydNewyddion

Y gwibiwr Tomi Lewis yw’r chwaraewr diweddaraf i arwyddo cytundeb newydd gyda’r Scarlets.

Wedi datblygu yn Academi’r Scarlets, dychwelodd yr asgellwr o anaf Achilles yn ystod gêm y Bencampwriaeth Rygbi Unedig penwythnos diwethaf yn Belfast.

Fe ddaeth Tomi nôl i’r Scarlets yn yr haf o 2023 yn dilyn ymgyrch llwyddiannus fel rhan o garfan Jersey Reds a enillwyd y Bencampwriaeth Saesneg.

Hawliodd pum cais yn ystod ei dymor cyntaf yng Ngorllewin Cymru, gan gynnwys y dwbl yn erbyn y Dreigiau yn Ddydd y Farn, cyn rhwygo’i Achilles yn yr un gêm.

Yn chwaraewr rhyngwladol i dimau Cymru saith bob ochr a D20, mae’r chwaraewr 26 oed o Aberhonddu wedi ymddangos 18 o weithiau i’r Scarlets ac yn edrych ymlaen at greu argraff yng ngemau olaf y tymor.

Dywedodd Tomi: “Dwi wrth fy modd i arwyddo cytundeb newydd am ddwy flynedd arall. Dwi wedi bod yma ers i fi fod yn 16 oed, mae’r clwb yma’n wych. Treuliais gyfnod byr gyda Jersey, gan ennill y bencampwriaeth yna, ond dwi’n dwli ar fy amser yma ac mor hapus i estynni fy nghytundeb.

“Braf oedd cael bod nôl yng nghrys Scarlets penwythnos diwethaf yn erbyn Ulster. Pob clod i’r tîm ffisiotherapi yma am fy nghael i nôl yn chwarae ar ôl wyth mis yn dilyn anaf cas. Fy mlaenoriaeth i nawr yw cael rhediad o gemau am weddill y tymor, gyda sawl gêm fawr ar y gweill yn yr wythnosau i ddod.

Ychwanegodd Tomi: “Mae gyda ni garfan ifanc yma sydd yn gwthio’i gilydd am le yn y tîm bob wythnos. Mae’r gystadleuaeth yna yn iach a gobeithio rydym i gyd yn symud y clwb yma ymlaen. Mae bod yn rhan o’r garfan yma yn gyffrous iawn.”

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Roedd gweld Tomi nôl ar y cae yn Belfast penwythnos diwethaf yn wych.

“Mae ganddo’r cyflymder sydd yn gallu achosi problemau enfawr i amddiffynwyr ac yn gyfforddus iawn o’i ffordd i sgori ceisiau. Rwy’n sicr os oedd Tomi ar gael i chwarae haf diwethaf, byddai fe wedi bod yn rhan o’r sgyrsiau am le yng ngharfan Cymru.

“Yn dilyn y newyddion am gytundeb newydd Macs, mae’n wych i gael chwaraewr arall sydd wedi datblygu yn yr Academi yma yn ymrwymo i’r clwb ac edrychwn ymlaen at weld Tomi fel rhan o garfan ifanc a chyffrous sy’n datblygu yma ym Mharc y Scarlets dros y tymhorau i ddod.”

Diolch enfawr i Steve Graham o City and Trust Finance am noddi Tomi am dymor 2024-25.