“Mae’n rhaid i ni fod yn y ras,” medd Pivac

Kieran LewisNewyddion

Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr y Scarlets, wedi arwain ei dîm i ail rownd derfynol Guinness PRO14 am yr ail dymor yn olynnol.

Os yw’r Scarlets am fod yn enillwyr cyntaf Guinness PRO14 fe fydd yn rhaid iddynt wneud hynny yn Nulyn unwaith eto a threchu’r pencampwyr Ewropeaidd Leinster.

Leinster orffennodd ar frig Adran B, saith pwynt ar y blaen o’r Scarlets, ac fe fu’n rhaid i’r Scarlets ddilyn y daith hir i’r rownd derfynol. Gyda buddugoliaeth gref dros Cheetahs yn y rownd go gyn derfynol arweiniodd y ffordd i’r fuddugoliaeth dros Glasgow yn y rownd gyn derfynol.

Wrth edrych ymlaen i’r gêm dywedodd Pivac; “Cyrraedd y ffeinal oedd y peth pwysig ac yna mae lawr i perfformiad 80-munud. Ry’n ni’n gwybod bod Leinster yn dîm da iawn ac os na fyddwn ni ar ein gorau fe fydd yn brynhawn hir, fel yr oedd yn rownd gyn derfynol Ewrop.

“Mae’n rhaid i ni wneud yn siwr ein bod ni yn yr ornest. Mae’n rhaid i ni geisio ennill y ras yn gynnar. Mae’n un peth gwybod beth yn union maent yn ei wneud mae’n rhywbeth arall i’w hatal. Dyw timau ddim yn mynd trwy cystadleuaeth Ewrop heb golli gêm heb fod yn dîm arbennig o dda.

“Fe wnaethon ni benderfynu gorffwys y garfan ar gyfer y gêm yn erbyn Caeredin, doedden ni ddim wedi gwneud hynny o’r blaen. Wrth edrych ar ein sefyllfa nawr roedd hwn yn benderfyniad cywir, er efallai nad oedd yn teimlo fel hynny ar y pryd.

“Ry’n ni’n teimlo’n dda o ran petrol yn y tanc. Ry’n ni mwy na thebyg ychydig yn gryfach nag oedden ni fel carfan adeg yma llynedd.

“Fe wnaeth gymryd bach o amser i ni ddatblygu ein gêm i’r lle’r oedd yn y mis olaf y tymor diwethaf. Wrth edrych lle ry’n ni nawr ry’n ni’n datblygu’n dda.”

Leinster v Scarlets, rownd derfynol Guinness PRO14, Stadiwm Aviva Sadwrn 26ain Mai, cic gyntaf 18:00. Yn fyw ar Sky Sports a S4C.

Fe fydd y gêm i’w gweld yn fyw ym Mar Calon ac Enaid Parc y Scarlets, ar agor o 17:00.