Marnus van der Merwe, Blair Murray a Josh Macleod oedd prif enillwyr noson gwobrwyo 2024-25 a chynhaliwyd ym Mharc y Scarlets.
Chwaraewyr, gwesteion, staff a noddwyr oedd yn bresennol yn Lolfa’r Quinnell am y digwyddiad.
Yn dlyn ymgyrch arbennig yn Llanelli, Marnus enillodd y bleidlais Dyfed Steels Chwaraewr y Tymor, gan dderbyn 39% o’r bleidlais.
Mae Blair yn un arall sydd wedi serennu yn ystod ei dymor cyntaf yng Ngorllewin Cymru gan dderbyn gwobr Gavin Griffiths Group Chwaraewr y Chwaraewyr.
Enillydd Chwaraewr yr Hyfforddwyr, noddwyd gan Geir Cawdor, oedd y capten Josh Macleod.
I gwblhau wythnos gofiadwy i Macs Page sydd wedi derbyn ei alwad cyntaf i garfan Cymru, fe enillodd gwobr Cais y Tymor am ei ymdrech unigol yn ystod y fuddugoliaeth gartref yn erbyn Zebre.
Fe aeth gwobr Castell Howell Chwaraewr Arloesol y Tymor i’r asgellwr Ellis Mee, a wnaeth gyrraedd o glwb Nottingham haf diwethaf ac aeth ymlaen i wneud ei ymddangosiad Prawf cyntaf i Gymru yn ystod y Chwe Gwlad eleni.
Roedd sôn arbennig am Gareth Davies, a gyrhaeddodd y garreg filltir o 250 ymddangosiad i’r Scarlets yn ystod gêm gartref yn erbyn Caerdydd ac Ioan Nicholas a ymunodd â’r clwb 100 o ymddangosiadau yn Bayonne.
Roedd yna gyflwyniad i’r chwaraewyr sydd yn ein gadael yr haf hwn hefyd – Ed Scragg, Charlie Titcombe, Efan Jones, Alex Craig, Ioan Lloyd, Shaun Evans ac yn olaf, Steff Evans, sydd wedi ymddangos 190 o weithiau i’r Scarlets dros 11 tymor, gan groesi am 74 cais.